Y Farwnes Hallett yn gwneud argymhellion i’r Prif Weinidog ar Gylch Gorchwyl yr Ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd: 12 Mai 2022
  • Pynciau: Ymgynghori, Cylch Gorchwyl

Heddiw, mae’r Farwnes Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gyda’i newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl yr Ymchwiliad.

Gosododd y Cylch Gorchwyl yr amlinelliad ar gyfer yr Ymchwiliad. Mae gan yr Ymchwiliad y pŵer i archwilio materion yn fanylach fel rhan o'i gwmpas.

Cynhaliodd yr Ymchwiliad ymgynghoriad pedair wythnos gyda theuluoedd mewn profedigaeth, cynrychiolwyr o wahanol sectorau a’r cyhoedd, a chafodd dros 20,000 o ymatebion ar yr hyn y dylai’r Ymchwiliad edrych arno a sut y dylai fynd ati i wneud ei waith. Mae’r newidiadau y mae’r Farwnes Hallett wedi’u hargymell yn adlewyrchu’r teimladau a’r profiadau a rannwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Mae’r Cadeirydd wedi gofyn i’r Prif Weinidog ehangu’r Cylch Gorchwyl drafft i barchu’r themâu a gododd dro ar ôl tro a ddeilliodd o gyfraniadau pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Mae hyn yn cynnwys ehangu'r Cylch Gorchwyl i gynnwys:

1) Plant a phobl ifanc, gan gynnwys yr effaith ar iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol, addysg a darpariaeth blynyddoedd cynnar;

2) Effeithiau ar iechyd meddwl a llesiantpoblogaeth y DU

3) Cydweithio rhwng llywodraeth ganolog, Gweinyddiaethau Datganoledig, awdurdodau lleol, a'r sector gwirfoddol a chymunedol;

Roedd effaith anghyfartal y pandemig yn thema a ddaeth i’r amlwg yn gryf mewn ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r Farwnes Hallett hefyd wedi argymell y dylid ail-lunio’r Cylch Gorchwyl i roi anghydraddoldebau ar y blaen fel bod ymchwiliad i effeithiau anghyfartal y pandemig yn rhedeg drwy’r Ymchwiliad cyfan.

Unwaith y bydd y Prif Weinidog wedi cymeradwyo Cylch Gorchwyl terfynol yr Ymchwiliad, bydd yn cael ei sefydlu gyda phwerau llawn o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005. Mae’r Ymchwiliad yn gobeithio y bydd Prif Weinidog y DU yn derbyn y newidiadau a argymhellir yn llawn, yn gyflym, fel y gall yr Ymchwiliad ddechrau ar ei waith ffurfiol.

Mae'r Ymchwiliad wedi ymrwymo i fod yn agored, ac rydym yn sicrhau bod y dogfennau dilynol ar gael i'r cyhoedd:

Llythyr y Cadeirydd at y Prif Weinidog a adroddiad ymateb cryno

Adroddiad a gynhyrchwyd gan Alma Economics, cwmni dadansoddi data, ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad (English/Saesneg)

Trawsgrifiadau ar gyfer cyfarfodydd bord gron gyda chynrychiolwyr o wahanol sectorau (English/Saesneg)

hwn diweddariad ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain a Fformat Hawdd ei Ddarllen.

Dogfennau cysylltiedig