Mae Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn nodi ei hargymhellion o Fodiwl 5.
Ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd yr Ymchwiliad ei bumed adroddiad a'i argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad i gaffael. Ystyriodd y pumed modiwl gaffael a dosbarthu offer a chyflenwadau allweddol sy'n gysylltiedig â gofal iechyd i ddefnyddwyr terfynol ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, gan gynnwys PPE, awyryddion ac ocsigen. Bydd pum adroddiad arall yn dilyn gyda hydref 2026 yn gweld cyhoeddi adroddiad Modiwl 6, yn archwilio'r sector gofal.
Mae'r darllediad byw hwn wedi dod i ben. Gallwch ei chwarae yn ôl isod neu ar ein sianel YouTube (yn agor mewn tab newydd).
Rhybudd: Gall iaith gref fod yn rhan o dystiolaeth o bryd i'w gilydd.
Modiwl 4: Brechlynnau a therapiwteg
Cyhoeddodd yr Ymchwiliad ei bedwerydd adroddiad a'i argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad i 'Frechlynnau a therapïau' ddydd Iau 16 Ebrill 2026. Mae'n archwilio datblygiad a defnydd brechlynnau a therapïau yn y DU yn ystod pandemig Covid-19.
Darllenwch yr adroddiadMae Pob Stori o Bwys
Diolch i bawb sydd wedi rhannu eu stori
Dyma oedd yr ymarfer gwrando mwyaf a gynhaliwyd erioed gan Ymchwiliad cyhoeddus yn y DU gyda 58,000 o brofiadau wedi'u rhannu. Bydd y straeon hyn yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r Cadeirydd, y Farwnes Heather Hallett, i ysgrifennu ei hadroddiadau a gwneud ei hargymhellion.
Mae'r Ymchwiliad wedi cyhoeddodd ei gynlluniau i fenthyg yr archif gyfan i amgylchedd ymchwil dibynadwy yng Ngwasanaeth Data'r DUGellir rhoi mynediad cyfyngedig i ymchwilwyr achrededig, gan gynnwys o'r llywodraeth a'r byd academaidd, mewn amgylchedd rhithwir diogel a rheoledig, at ddibenion ymchwil yn unig.
Mae Pob Stori o Bwys
Newyddion
Diweddariadau o'r Ymchwiliad
Fe wnaeth yr Ymchwiliad ganfod bod methiannau a diffygion systemig wedi gadael gweithwyr rheng flaen heb ddigon o PPE ac wedi gwastraffu biliynau
Heddiw, mae'r Farwnes Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, yn cyhoeddi ei phumed adroddiad. Mae'n archwilio sut y gwnaeth llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gaffael a dosbarthu offer gofal iechyd hanfodol yn ystod pandemig Covid-19 ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae Modiwl 5 'Caffael', y pumed o 10 ymchwiliad yr Ymchwiliad, yn tynnu sylw at fethiannau lluosog, yn enwedig yn y...
Wythnos y Gofalwyr: 'Aeth yn ormod' ac yn 'unig iawn, iawn' - straeon gofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn nodi Wythnos Gofalwyr (8–14 Mehefin) drwy rannu’r hyn y mae gofalwyr di-dâl wedi’i ddweud wrthym am eu profiadau yn ystod y pandemig, gan gynnwys straeon am losgi allan, straen, trawma, colled a galar.
Ymchwiliad yn cyhoeddi dyddiad cyhoeddi'r pumed adroddiad ‘Caffael’ (Modiwl 5)
Bydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn cyhoeddi ei bumed adroddiad, 'Caffael' (Modiwl 5), ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026. Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan yr Ymchwiliad am 12pm ddydd Mawrth 14 Gorffennaf. Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn cyflwyno ei hargymhellion mewn...