Modiwlau

Er mwyn caniatáu archwiliad llawn a manwl o’r holl wahanol agweddau ar y pandemig a gwmpesir yn y Cylch Gorchwyl, mae’r Farwnes Hallett wedi penderfynu rhannu gwaith ymchwilio'r Ymchwiliad yn Fodiwlau.


Cyhoeddir Modiwlau'r Ymchwiliad ac yna cânt eu hagor yn eu trefn, ac ar ôl hynny ystyrir ceisiadau Cyfranogwyr Craidd. Mae gan bob modiwl wrandawiad rhagarweiniol cyfatebol a gwrandawiad llawn, a chyhoeddir y manylion ohonynt gan yr Ymchwiliad.

Modiwlau'r dyfodol

Bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf, a phryd hynny bydd gwybodaeth allweddol yn cael ei lanlwytho ar y dudalen hon. Bydd pob modiwl yn ymchwilio i faterion ledled y DU gyfan, gan gynnwys yng ngweinyddiaethau datganoledig yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.. Bydd hyn yn cwmpasu materion 'system' yn ogystal ag 'effaith' ledled y DU gan gynnwys:

  • Ymatebion busnes ac ariannol y Llywodraeth
  • Anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19
  • Addysg, plant a phobl ifanc
  • Gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys darpariaeth rheng flaen gan weithwyr allweddol