Agorodd Modiwl 2 ar 31 Awst 2022 ac mae wedi’i rannu’n rhannau. Yn gyntaf, bydd yn edrych ar lywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau ar gyfer y DU. Bydd yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau’r llywodraeth ganolog, perfformiad gwleidyddol a gwasanaeth sifil yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas â llywodraethau yn y gweinyddiaethau datganoledig a’r sectorau lleol a gwirfoddol. Bydd Modiwl 2 hefyd yn asesu'r penderfyniadau a wneir am fesurau nad ydynt yn rhai fferyllol a'r ffactorau a gyfrannodd at eu gweithredu.
Bydd Modiwlau 2A, B ac C yn mynd i’r afael â’r materion strategol a throsfwaol o safbwynt yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Caiff y rhain eu trin fel modiwlau unigol ar wahân a chynhelir gwrandawiadau cyhoeddus ar eu cyfer yn y gwledydd y maent yn ymwneud â hwy.
Mae'r broses ymgeisio i ddod yn Gyfranogwr Craidd ar gyfer Modiwl 2, 2A, 2B a 2C bellach wedi cau. Cynhaliodd Modiwl 2 ei Wrandawiad Rhagarweiniol cyntaf ar 31 Hydref 2022 a bydd yn cynnal Gwrandawiad Rhagarweiniol pellach yng ngwanwyn 2023, gyda gwrandawiadau tystiolaeth lafar wedi’u hamserlennu ar gyfer Haf 2023. Cafodd Modiwlau 2A a 2B eu Gwrandawiadau Rhagarweiniol ar 1 Tachwedd 2022 a 2C ar 2 Tachwedd. Cyhoeddir yr amserlen ar gyfer gwrandawiadau llafar ar gyfer y modiwlau hyn yn fuan.
Modiwlau cysylltiedig
- Penderfyniadau craidd y DU a rheolaeth wleidyddol (Modiwl 2)
- Gwneud penderfyniadau craidd y DU; llywodraethu gwleidyddol - Alban (Modiwl 2A)
- Gwneud penderfyniadau craidd y DU; llywodraethu gwleidyddol - Cymru (Modiwl 2B)
Dogfennau cysylltiedig
- Modiwl 2C Amlinelliad Dros Dro o'r Cwmpas
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu cwmpas dros dro Modiwl 2C
- Rhestr o Gyfranogwyr Craidd Modiwl 2C
Rhestr o Gyfranogwyr Craidd ym Modiwl 2C o'r…