Bydd yr Ymholiad yn dechrau clywed tystiolaeth ar gyfer ei ail ymchwiliad, gan archwilio penderfyniadau a llywodraethu gwleidyddol craidd y DU (Modiwl 2), ar ddydd Mawrth 3ydd o Hydref.
Bydd y gwrandawiadau'n digwydd dros naw wythnos, a disgwylir iddynt ddod i ben ar ddydd Iau, 14eg o Rhagfyr.
wythnos yn cychwyn dydd Llun 23ain o Hydref.
- w/c Dydd Llun 23ain o Hydref.
- wythnos yn cychwyn dydd Llun 13eg o Dachwedd.
Cynhelir y gwrandawiadau yn Dorland House, Llundain, W2 6BU (map). Bydd y gwrandawiadau yn agored i'r cyhoedd i'w mynychu gwybodaeth am sut i fynychu . Trefnir bod amserlen y tystion ar gael ar ein gwefan yn agosach at yr amser.
Trefnir dros dro bod gwrandawiad rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 2a, sy'n canolbwyntio ar wneud penderfyniadau a llywodraethiant gwleidyddol yn yr Alban, i'w gynnal yn Dorland House ar ddydd Iau 26 Hydref. Cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus yn yr Alban yn Ionawr 2024.
Bydd y gwrandawiadau ar gael i'w gwylio ar sianelYouTube yr Ymholiad, yn amodol ar oedi o dri munud.
Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o drafodaethau gwrandawiadau ar ddiwedd pob diwrnod. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymholiad ar ddyddiad diweddarach.
Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad iaith Gymraeg, ar gael ar gais.
Mae rhestr lawn o ddyddiadau gwrandawiadau sydd i ddod ar gael ar amserlen ein gwefan.