Diweddariad: Y camau nesaf ar gyfer gwaith ymchwilio'r Ymchwiliad i barodrwydd a gwydnwch yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd: 11 Ebrill 2023
  • Pynciau: Modiwl 1

Bydd gwrandawiad rhagarweiniol pellach ar gyfer Modiwl 1, gwaith ymchwilio'r Ymchwiliad i barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig, yn cael ei gynnal ar-lein ar ddydd Mawrth 25 Ebrill am 10:30yb.

Mewn gwrandawiadau rhagarweiniol, mae'r Ymchwiliad yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut y bydd y gwaith ymchwilio'n rhedeg. Yn y gwrandawiadau hyn, nid yw'r Ymchwiliad yn cymryd tystiolaeth.

Bydd gwrandawiadau tystiolaethol ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn dechrau ar ddydd Mawrth 13 Mehefin 2023 ac yn dod i ben erbyn dydd Gwener 20 Gorffennaf. Bydd rhagor o fanylion am sut i fynychu’r gwrandawiadau tystiolaethol a’r amserlen tystion yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser.

Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o bob gwrandawiad ar yr un diwrnod ag y mae'n dod i ben. Cyhoeddir recordiad o'r gwrandawiad ar wefan yr Ymchwiliad ar ddyddiad diweddarach.

Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gais.

Cwestiynau Cyffredin yr Ymchwiliad