Darllediad
Mae darllediad byw y gwrandawiad hwn wedi dod i ben. Gallwch ei chwarae yn ôl isod neu ar ein sianel YouTube (yn agor mewn tab newydd).
Rhybudd: Gall iaith gref fod yn rhan o dystiolaeth o bryd i'w gilydd.
Sylwch fod yr amseriadau yn rhai dros dro a gallant newid.
Ffilm Effaith Modiwl 1
Cafodd y ffilm ganlynol ei dangos yn ystod y gwrandawiad cyhoeddus cyntaf ar 13 Mehefin 2023. Yn ei sylwadau agoriadol, dywedodd y Cadeirydd, y Farwnes Hallett:
“Mewn eiliad rydyn ni'n mynd i wylio ein ffilm effaith gyntaf - lle mae pobl o bob rhan o bedair gwlad y DU yn siarad am yr effaith ddinistriol y mae'r pandemig wedi'i chael arnyn nhw a'u hanwyliaid.
“Mae’r ffilm yn hynod deimladwy. Mae'n golygu bod pobl yn siarad yn glir iawn am eu dioddefaint a'u colled - mewn ffordd a fydd yn dod ag atgofion anodd iawn yn ôl i lawer o bobl.
“Rwyf am ddiolch i bawb a gytunodd i gael eu ffilmio fel rhan o hyn – gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ffilm gyntaf hon. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd oedd hi i ail-fyw'r profiadau hynny o flaen camera. Ond credwch, roedd yn werth chweil. Rydych chi wedi cofnodi eich profiad ar gyfer y dyfodol ac wedi fy rhybuddio am faterion y mae angen i mi eu harchwilio.”