Ymchwiliad Covid-19 y DU ac Ymchwiliad Covid-19 yr Alban yn cyhoeddi manylion ar sut y byddant yn cydweithio

  • Cyhoeddwyd: 23 Chwefror 2023
  • Pynciau: Datganiadau

Ymchwiliad Covid-19 y DU ac Ymchwiliad Covid-19 yr Alban yn cyhoeddi manylion ar sut y byddant yn cydweithio 

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU ac Ymchwiliad Covid-19 yr Alban wedi cyhoeddi cytundeb heddiw, yn amlinellu sut y bydd y ddau ymchwiliad yn cydweithio.

Cyfarfu'r Arglwydd Brailsford, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 yr Alban â'r Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU i gytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth i leihau dyblygu ymchwilio, casglu tystiolaeth ac adrodd.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a lofnodwyd gan y ddau Ymchwiliad, yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu gwybodaeth glir i'r cyhoedd am sut fydd y ddau Ymchwiliad yn cyflawni eu hymchwiliadau yn yr Alban, yn lleihau dyblygu gwaith trwy rannu gwybodaeth ac yn uchafu gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus.

Dywedodd y Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU:

"Mae'n hanfodol fod ein dau ymchwiliad yn darparu eglurder i bobl yn yr Alban, yn enwedig y rheini a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y pandemig, ar sut y byddwn yn cydweithio. Bydd gwneud hynny yn golygu y gallwn ateb cymaint o gwestiynau â phosibl am ymateb y DU i’r pandemig, a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”  

“Mae cyhoeddi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gam pwysig cyntaf mewn tanlinellu ein hymrwymiad i gydweithredu, lleihau dyblygu ymdrech a darparu cymaint o eglurder â phosibl i bobl yn yr Alban ar sut mae'r ddau Ymchwiliad yn bodloni eu Cylch Gorchwyl mewn perthynas â materion yr Alban.”

Dywedodd yr Arglwydd Brailsford, Cadeirydd Ymchwiliad COVID-19 yr Alban: 

“Mae'r cytundeb hwn yn adlewyrchu dealltwriaeth rhwng y ddau Ymchwiliad ynghylch sut y byddwn yn ceisio osgoi dyblygu a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o waith ein gilydd, gan gynnwys ein ymarferion ymgysylltu cyhoeddus cyfochrog.”

"Trwy gydweithio rydym yn anelu at sicrhau nad oes materion yn syrthio trwy fylchau a'n bod yn rhannu gwybodaeth a chynlluniau, er budd pobl yr Alban."

Bydd yr ymholiadau yn cyfarfod o leiaf bob mis, ac yn rhannu gwybodaeth am y pynciau hynny sydd o fewn Cylch Gorchwyl y ddau Ymchwiliad, sy’n pennu'r cwmpas ar gyfer pob ymchwiliad.

Mae'r ddau Ymchwiliad wedi ymrwymo i archwilio cyfleoedd i rannu cyfleusterau ar gyfer gwrandawiadau yn yr Alban.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Cylch Gorchwyl Ymholiad Covid-19 y DU

Cylch Gorchwyl Ymchwiliad COVID-19 yr Alban