Ymchwiliad Covid-19 y DU yn Cyhoeddi Grŵp Ymgynghori Moeseg ar gyfer Mae pob stori o bwys

  • Cyhoeddwyd: 18 Ebrill 2023
  • Pynciau: Mae Pob Stori o Bwys, Datganiadau

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi y bydd Grŵp Ymgynghori Moeseg annibynnol yn cael ei greu er mwyn sicrhau bod ei ymarfer gwrando ledled y DU, Mae pob stori o bwys, yn cynnal y safonau moesegol uchaf.

Bydd y Grŵp, sydd ag arbenigedd mewn moeseg ac ymarfer ymchwil cymdeithasol, yn darparu adolygiad annibynnol o ddyluniad a dull Mae pob stori o bwys a bydd dan gadeiryddiaeth David Archard, Athro Emeritws Athroniaeth ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast.

Mae pob stori o bwys yw ffordd yr Ymchwiliad o ymgysylltu â phobl ledled y DU i glywed eu profiadau o'r pandemig, y gellir eu casglu at ei gilydd i ddeall y profiad ar draws y DU gyfan, gan gynnwys y rhai na chlywir yn aml. Wedyn cyflwynir y profiadau hynny ar ffurf tystiolaeth a'u hystyried gan Gadeirydd yr Ymchwiliad, gan gyfrannu at ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

David Archard hefyd yw Cadeirydd Cyngor Nuffield ar Fiofoeseg ac Is-lywydd Anrhydeddus y Gymdeithas dros Athroniaeth Gymhwysol. Athronydd moesol cymhwysol ydyw sydd wedi cyhoeddi'n eang ar sawl pwnc, yn enwedig statws moesol a gwleidyddol plant, a'r teulu.

Mae'r aelodau'n arbenigwyr academaidd sydd â gwybodaeth ddofn am y diwydiant ymchwil a'i ddulliau a phrofiad helaeth o gynnal arfarniadau ymchwil a moeseg. Mae gan y Grŵp wybodaeth eang mewn meysydd megis iechyd, y sector gofal, y gyfraith a seicoleg. Bydd y Grŵp yn adolygu'r dull arfaethedig ar gerrig milltir allweddol yn ystod ymarfer gwrando'r Ymchwiliad ac yn rhoi cyngor ar faterion sy'n dod i'r amlwg.

Mae gan y Grŵp pum aelod sy’n cynnwys y Cadeirydd ynghyd â'r pedwar aelod annibynnol canlynol:

  • Daniel Butcher, Pennaeth Moeseg a Llywodraethu Ymchwil, Coleg y Brenin, Llundain: Mae Daniel yn rhan o dîm sy'n rheoli'r broses clirio moesegol ar draws y Coleg. Cynlluniwyd y broses i sicrhau bod yr holl weithgareddau ymchwil, sy'n cynnwys pobl ac a gynhelir gan staff a myfyrwyr Coleg y Brenin, yn cael eu cyflawni mewn ffordd sy'n diogelu urddas, hawliau, iechyd, diogelwch, a phreifatrwydd y rhai dan sylw.
  • Emma Cave, Athro Cyfraith Gofal Iechyd, Prifysgol Durham: Mae Emma'n cyhoeddi ar faterion sy'n ymwneud â chaniatâd, iechyd y cyhoedd ac ymchwil iechyd.
  • Josie Dixon, Cymrawd Ymchwil Athrawol Cynorthwyol, Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain: Bu Josie yn gweithio yn y Ganolfan Genedlaethol ar Ymchwil Gymdeithasol a bellach mae hi yn LSE. Mae hi'n deall ymchwil ansoddol, yn ogystal â meddu ar arbenigedd mewn gofal lliniarol a chymdeithasol.
  • Dr Mehrunisha Suleman, Cyfarwyddwr Moeseg Feddygol ac Addysg y Gyfraith, Canolfan Ethox, Iechyd Poblogaeth Rhydychen (Prifysgol Rhydychen): Mae Mehrunisha yn ymchwilydd biofoesegol ac iechyd cyhoeddus sydd wedi'i hyfforddi'n feddygol. Yn ddiweddar arweiniodd Ymchwiliad Effaith COVID-19 y Sefydliad Iechyd a oedd yn cynnwys curadu portffolio amrywiol o waith i asesu effaith y pandemig ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.

Meddai Cadeirydd Grŵp Ymgynghori Moeseg Ymchwiliad Covid-19 y DU, yr Athro David Archard:
"Mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi ymgymryd â'r rôl o gadeirio Grŵp Ymgynghori Moeseg Mae pob stori o bwys. Mae'r Ymchwiliad yn un hynod bwysig i'r ffyrdd yr effeithiodd y pandemig ar fywydau pawb yn y DU, ac mae'n hanfodol bod ei ymarfer gwrando yn cael ei gynnal mewn modd moesegol gadarn a bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at sicrhau bod hyn yn digwydd."

Meddai Ben Connah, Ysgrifennydd yr Ymchwiliad:
"Pobl sydd wrth galon gwaith yr Ymchwiliad a thrwy Mae pob stori o bwys byddwn yn sicrhau bod profiadau dynol o'r pwys mwyaf. Rhaid gwerthuso ein dull gweithredu'n annibynnol yn un sydd â sail foesegol gadarn.

"Mae ein Cadeirydd Grŵp newydd, yr Athro David Archard ac aelodau eraill y Grŵp Ymgynghori Moeseg yn arbenigwyr yn eu maes. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth i'r Ymchwiliad ddogfennu cost ddynol y pandemig i gryfhau ei ganfyddiadau a bod o fudd i'r DU ar hyn o bryd ac i genedlaethau'r dyfodol."