Rydym bellach wedi cau’r ffenestr ymgeisio Cyfranogwr Craidd ar gyfer Modiwl 3, trydydd ymchwiliad yr Ymchwiliad, a fydd yn edrych ar effaith y pandemig ar ofal iechyd.
Bydd Modiwl 3 yn archwilio sut yr ymatebodd systemau gofal iechyd i'r pandemig, a'r effaith ar systemau a gwasanaethau, gan gynnwys ar gleifion, meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd eraill yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd y Farwnes Hallet, y Cadeirydd, yn adolygu’r ceisiadau’n ofalus ac yn penderfynu arnynt maes o law. Bydd yr Ymchwiliad wedyn yn hysbysu ymgeiswyr o ganlyniad eu ceisiadau ac yn rhoi penderfyniad y Cadeirydd iddynt.
Mae Cyfranogwr Craidd yn unigolyn, sefydliad neu fudiad sydd â diddordeb penodol yng ngwaith yr Ymchwiliad ac sydd â rôl ffurfiol i’w chwarae ym mhroses yr Ymchwiliad. Rhoddir statws Cyfranogwr Craidd o dan Reol 5 o Reolau Ymchwiliad 2006.
Nid oes angen i unigolion a sefydliadau gael statws Cyfranogwr Craidd i gael eu galw i roi tystiolaeth i'r Ymchwiliad.
Cynhelir y gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer Modiwl 3 ar 28 Chwefror 2023. Yn ystod y gwrandawiad, bydd Cwnsler yr Ymchwiliad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau Cyfranogwyr Craidd a bydd yr Ymchwiliad yn nodi'r cynllun ar gyfer y modiwl hwn yn fanylach.
Bydd yr Ymchwiliad yn dechrau clywed tystiolaeth yng ngwanwyn 2023.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad yn ystod yr wythnosau nesaf.