Diweddariad ar Ymchwiliad Covid-19 y DU: gwrandawiadau rhagarweiniol yn Chwefror a Mawrth

  • Cyhoeddwyd: 18 Ionawr 2023
  • Pynciau: Modiwl 1, Modiwl 2, Modiwl 3

Cynhelir gwrandawiadau rhagarweiniol ar gyfer tri ymchwiliad cyntaf yr Ymchwiliad yn Chwefror a Mawrth.

Bydd yr Ymchwiliad yn cynnal ei wrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ei drydydd ymchwiliad, Modiwl 3, gan edrych ar effaith y pandemig ar ofal iechyd, ddydd Mawrth 28 Chwefror. Bydd y gwrandawiad yn digwydd yn bersonol yn Llundain, a chaiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi gyda hyn. Bydd hefyd ar gael i'w wylio ar sianel YouTube yr Ymchwiliad

Bydd yr Ymchwiliad yn cynnal pum gwrandawiad rhagarweiniol ychwanegol ar gyfer ei ddau ymchwiliad cyntaf: Modiwl 1 i barodrwydd a gwytnwch y DU ar gyfer pandemig; a Modiwlau 2, 2A, 2B a 2C, a fydd yn archwilio'r broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn y DU, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Bydd y gwrandawiadau hyn yn rhithwir- ac nid oes modd eu mynychu yn bersonol. Caiff y gwrandawiadau eu ffrydio a gall y cyhoedd wylio ar-lein trwy sianel YouTube yr Ymchwiliad, yn amodol ar dri munud o oedi:

  • 10:30 dydd Mawrth 14 Chwefror Modiwl 1: Parodrwydd a gwytnwch ar gyfer pandemig
  • 10:30 dydd Mercher 1 Mawrth Modiwl 2: Y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn y DU
  • 10:30 dydd Mawrth 21 Mawrth Modiwl 2A: Y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn yr Alban
  • 10:00 Dydd Mercher 29 Mawrth Modiwl 2B: Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru
  • 13:45 dydd Mercher 29 Mawrth Modiwl 2C: Y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Ngogledd Iwerddon

Bydd materion gweithdrefnol sy'n edrych ar sut y bydd pob ymchwiliad yn rhedeg yn cael eu trafod yn y gwrandawiadau hyn. Bydd cyflwyniadau gan y Cwnsler i’r Ymchwiliad a’r Cyfranogwyr Craidd i helpu’r Ymchwiliad i baratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus, lle clywir tystiolaeth. Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi agenda yn nes at yr amser.

Cynhaliodd yr Ymchwiliad ei set gyntaf o wrandawiadau rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 1 a Modiwlau 2, 2B a 2C yn Hydref a Thachwedd 2022.

Bydd yr Ymchwiliad yn dechrau clywed tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad cyntaf (Modiwl 1) i barodrwydd a gwytnwch y DU ar gyfer pandemig ym Mai.

Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o bob gwrandawiad ar yr un dydd y mae'n dod i ben. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad ar ddyddiad diweddarach.Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gais.