Gall aelodau'r cyhoedd nawr rannu eu profiadau ag Ymchwiliad Covid-19 y DU

  • Cyhoeddwyd: 16 Tachwedd 2022
  • Pynciau: Mae Pob Stori O Bwys

Heddiw, mae’r Ymchwiliad wedi lansio ffurflen ar-lein newydd y gall unrhyw un ei defnyddio i rannu eu profiadau o’r pandemig yn uniongyrchol â’r Ymchwiliad.

Mae hwn wedi'i ddatblygu gydag aelodau'r cyhoedd yn dweud wrthym sut yr hoffent rannu'r hyn a ddigwyddodd iddynt. Mae'r ffurflen yn ffordd y gall pobl rannu'n ddienw sut yr effeithiodd y pandemig ar eu bywydau, heb y ffurfioldeb o roi tystiolaeth na mynychu gwrandawiad cyhoeddus.

Mae’r fersiwn gyntaf hon o’r ffurflen ar-lein yn gam pwysig a byddwn yn ei gwella rhwng nawr a’r Gwanwyn. Bydd opsiynau eraill ar gyfer rhannu ar gael dros y misoedd nesaf.

Gofynnir i gyfranogwyr beidio â chyflwyno manylion personol, a bydd y profiadau a gasglwyd yn cael eu hadolygu'n ddiweddarach, gydag adroddiadau dadansoddol yn crynhoi'r hyn a gyfrannodd pobl yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth ym modiwlau a gwrandawiadau'r Ymchwiliad. Oherwydd y gall cofio'r digwyddiadau hyn fod yn emosiynol heriol, rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau allanol a all ddarparu cefnogaeth os oes angen.

Mae Cylch Gorchwyl Ymchwiliad Covid-19 y DU yn cynnwys ymrwymiad i wrando ac ystyried yn ofalus brofiadau teuluoedd mewn profedigaeth ac eraill sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i’r pandemig.

Mae’r ffurflen ar-lein yn gam pwysig ymlaen ar gyfer yr ymarfer gwrando a fydd yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU rannu eu profiadau gyda’r Ymchwiliad.

Rhannwch eich profiad