Ymchwiliad Covid-19 y DU yn agor trydydd ymchwiliad i effaith y pandemig ar ofal iechyd

  • Cyhoeddwyd: 8 Tachwedd 2022
  • Pynciau: Modiwl 3

"Cafodd y pandemig effaith ddigynsail ar systemau iechyd ledled y DU. Bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio i'r penderfyniadau gofal iechyd a gafodd eu gwneud yn ystod y pandemig a'u dadansoddi, y rhesymau drostynt a'u heffaith, fel bod gwersi'n gallu cael eu dysgu ac argymhellion yn cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd y Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU:

"Cafodd y pandemig effaith ddigynsail ar systemau iechyd ledled y DU. Bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio i'r penderfyniadau gofal iechyd a gafodd eu gwneud yn ystod y pandemig a'u dadansoddi, y rhesymau drostynt a'u heffaith, fel bod gwersi'n gallu cael eu dysgu ac argymhellion yn cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol.” 

"Yn ystod yr ymgynghoriad ar ein Cylch Gorchwyl, dywedodd teuluoedd mewn profedigaeth a gweithwyr gofal iechyd wrthyf yn ddidwyll am effaith ddinistriol ac estynedig y pandemig ar ofal iechyd. Mae'r rheini a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y pandemig yn haeddu atebion ar beth ddigwyddodd a pham. Rwy'n benderfynol o gael yr atebion hynny."

Bydd Modiwl 1 yn archwilio gwytnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig ar gyfer pandemig gan gynnwys parodrwydd gwasanaethau iechyd cyhoeddus. Bydd Modiwl 3 yn archwilio'r canlyniadau ar gyfer gofal iechyd o'r ymateb i'r pandemig. Bydd yn edrych ar sut yr ymatebodd y systemau gofal iechyd, yr effaith ar systemau a gwasanaethau, gan gynnwys ar gleifion, meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd eraill. 

Mae'r Ymchwiliad wedi amlinellu 12 prif faes ar gyfer ymchwilio yn ei gwmpas, gan gynnwys:

  • gwneud penderfyniadau craidd ac arweinyddiaeth;
  • lefelau staffio a chapasiti gofal critigol (gan gynnwys sefydlu a defnyddio ysbytai Nightingale);
  • atal lledaenu Covid-19 o fewn lleoliadau gofal iechyd (gan gynnwys rheoli haint a digonolrwydd Cyfarpar Diogelu Personol
  • cyfathrebu â chleifion â Covid-19 a'u hanwyliaid ynglŷn â thriniaeth - gan gynnwys trafodaethau am Na cheisier dadebru cardio-anadlol (DNACPRs);
  • gwarchod a'i effaith ar y rhai agored i niwed yn glinigol;
  • effeithiau tymor hir Covid-19, gan gynnwys Covid Hir.

Mae'r broses ymgeisio i ddod yn Gyfranogwr Craidd ar gyfer Modiwl 3 yn agor heddiw, 8 Tachwedd, a bydd yn cau ar 5 Rhagfyr am 5pm.

Mae Cyfranogwr Craidd yn unigolyn, neu sefydliad sydd â diddordeb penodol yng ngwaith yr Ymchwiliad. 

Gall Cyfranogwyr Craidd weld tystiolaeth sy'n berthnasol i'r ymchwiliad hwn, gwneud datganiadau agor a chau yng ngwrandawiadau'r Ymchwiliad ac awgrymu trefn cwestiynau i'w holi i Gwnsler yr Ymchwiliad.

Dogfennau allweddol