Ymchwiliad Covid-19 y DU yn agor ail ymchwiliad i benderfyniadau'r llywodraeth

  • Cyhoeddwyd: 31 Awst 2022
  • Pynciau: Cyfreithiol, Modiwl 2

Heddiw mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn agor ei ail ymchwiliad, Modiwl 2, a fydd yn archwilio penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol llywodraeth y DU a'r llywodraetha datganoledig. Bydd yn canolbwyntio ar ddechrau 2020.

Heddiw mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn agor ei ail ymchwiliad, Modiwl 2, a fydd yn archwilio penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol llywodraeth y DU a'r llywodraetha datganoledig. Bydd yn canolbwyntio ar ddechrau 2020.

Bydd Modiwl 2A yn archwilio grwpiau ac unigolion allweddol o fewn Llywodraeth yr Alban gan gynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yr Alban.

Bydd Modiwl 2B yn archwilio’r broses o wneud penderfyniadau gan grwpiau ac unigolion allweddol o fewn y llywodraeth yng Nghymru gan gynnwys Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill Cymru.

Bydd Modiwl 2C yn archwilio’r broses o wneud penderfyniadau gan grwpiau ac unigolion allweddol o fewn y llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidogion eraill.

Bydd yr Ymchwiliad yn cynnal gwrandawiadau rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 2, 2A, 2B a 2C ddiwedd yr hydref.

Bydd tystion yn rhoi tystiolaeth ar gyfer Modiwl 2 yn haf 2023

Gwrandawiadau tystiolaethol ar gyfer Modiwlau 2A, 2B a 2C yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r broses ymgeisio i ddod yn Gyfranogwr Craidd ar gyfer Modiwl 2, 2A, 2B a 2C yn agor heddiw, 31 Awst, a bydd yn cau ar 23 Medi am 5pm.

Mae Cyfranogwr Craidd yn unigolyn, neu sefydliad sydd â diddordeb penodol yng ngwaith yr Ymchwiliad.

Gall Cyfranogwyr Craidd weld tystiolaeth sy'n berthnasol i'r ymchwiliad hwn, gwneud datganiadau agor a chau yng ngwrandawiadau'r Ymchwiliad ac awgrymu trefn cwestiynau i'w holi i Gwnsler yr Ymchwiliad.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i fod yn Gyfranogwr Craidd ym Modiwl 2 ar gael yn y Protocol Cyfranogwr Craidd. Protocol Cyfranogwr Craidd.

Dywedodd y Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU:

“Mae’r Ymchwiliad wedi dechrau ei ymchwiliadau Modiwl 2, gan graffu ar benderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd llywodraeth San Steffan. Bydd modiwlau cysylltiedig 2A, 2B a 2C yn caniatáu imi edrych ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon."

“Bydd fy nhîm a minnau yn darganfod beth a ddeellid am Covid-19 ar y pryd, pa wybodaeth oedd ar gael ym mhob un o bedair gwlad y DU a sut a pham y gwnaed penderfyniadau allweddol, yn enwedig yar ddechrau'r pandemig."

“Byddaf yn cymryd tystiolaeth y flwyddyn nesaf i greu darlun llawn o’r heriau yr oedd llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn eu hwynebu a sut y dewisodd pob un fynd i'r afael â'r rhain.”

Dogfennau cysylltiedig