Diweddariad o'r Ymchwiliad: y camau nesaf ar gyfer Modiwl 1

  • Cyhoeddwyd: 17 Awst 2022
  • Pynciau: Modiwl 1

Rydym bellach wedi cau'r ffenestr ymgeisio Cyfranogwr Craidd ar gyfer Modiwl 1. Bydd Modiwl 1 yn archwilio gwytnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig ar gyfer pandemig Coronafeirws. 

Bydd y Cadeirydd yn adolygu'r ceisiadau'n ofalus ac yn gwneud penderfyniadau ym mis Medi. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu'n uniongyrchol gan yr Ymchwiliad.

Gallwn hefyd gadarnhau y bydd ein gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf, i drafod materion gweithdrefnol mewn perthynas â Modiwl 1, yn cael ei gynnal ar 20 Medi. Bydd yr Ymchwiliad yn dechrau clywed tystiolaeth yng Ngwanwyn 2023. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar y wefan yn yr wythnosau nesaf.