Diweddariad: Ymchwiliad yn cynnal gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer y pumed ymchwiliad: Caffael ledled y DU

  • Cyhoeddwyd: 5 Chwefror 2024
  • Pynciau: Gwrandawiadau, Modiwl 5

Yr wythnos hon bydd yr Ymchwiliad yn cynnal y gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ei ymchwiliad Caffael ledled y DU (Modiwl 5). ar ddydd Mawrth 6 Chwefror.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn y Canolfan Gwrandawiad yr Ymchwiliad, Dorland House, Llundain, W2 6BU ac yn dechrau am 10:30yb.

Mewn gwrandawiadau rhagarweiniol, mae Cadeirydd yr Ymchwiliad yn gwneud penderfyniadau am sut y bydd ymchwiliadau'n rhedeg. Nid yw'r Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth yn y gwrandawiadau hyn. Bydd cyflwyniadau gan y Cwnsler i'r Ymchwiliad a Chyfranogwyr Craidd i helpu paratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus, lle clywir tystiolaeth

Bydd y pumed ymchwiliad yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar gaffael a dosbarthu offer a chyflenwadau allweddol sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys PPE, peiriannau anadlu ac ocsigen. Bydd hefyd yn ystyried caffael profion llif ochrol a phrofion PCR ledled y DU.

Ceir rhagor o fanylion yn y cwmpas dros dro ar gyfer Modiwlau 5.

Mae’r gwrandawiad yn agored i’r cyhoedd ei fynychu – mae gwybodaeth am sut i fynychu ar gael ar y wefan.

Gallwch wylio'r gwrandawiadau rhagarweiniol ar Sianel YouTube yr Ymchwiliadl, yn amodol ar oedi o dri munud.

Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o’r gwrandawiad ar yr un diwrnod y daw i ben. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad yn ddiweddarach. Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg, ar gael ar gais.

Modiwlau cysylltiedig

Dogfennau cysylltiedig

Clyweledau cysylltiedig