Yr wythnos hon bydd yr Ymchwiliad yn cynnal y gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ei ymchwiliad Caffael ledled y DU (Modiwl 5). ar ddydd Mawrth 6 Chwefror.
Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn y Canolfan Gwrandawiad yr Ymchwiliad, Dorland House, Llundain, W2 6BU ac yn dechrau am 10:30yb.
Mewn gwrandawiadau rhagarweiniol, mae Cadeirydd yr Ymchwiliad yn gwneud penderfyniadau am sut y bydd ymchwiliadau'n rhedeg. Nid yw'r Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth yn y gwrandawiadau hyn. Bydd cyflwyniadau gan y Cwnsler i'r Ymchwiliad a Chyfranogwyr Craidd i helpu paratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus, lle clywir tystiolaeth
Bydd y pumed ymchwiliad yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar gaffael a dosbarthu offer a chyflenwadau allweddol sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys PPE, peiriannau anadlu ac ocsigen. Bydd hefyd yn ystyried caffael profion llif ochrol a phrofion PCR ledled y DU.
Ceir rhagor o fanylion yn y cwmpas dros dro ar gyfer Modiwlau 5.
Mae’r gwrandawiad yn agored i’r cyhoedd ei fynychu – mae gwybodaeth am sut i fynychu ar gael ar y wefan.
Gallwch wylio'r gwrandawiadau rhagarweiniol ar Sianel YouTube yr Ymchwiliadl, yn amodol ar oedi o dri munud.
Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o’r gwrandawiad ar yr un diwrnod y daw i ben. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad yn ddiweddarach. Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg, ar gael ar gais.
Modiwlau cysylltiedig
Dogfennau cysylltiedig
-
Modiwl 5 Amlinelliad Dros Dro o'r Cwmpas
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu cwmpas dros dro Modiwl 5.
-
Rhestr o Gyfranogwyr Craidd Modiwl 5
Rhestr o Gyfranogwyr Craidd ym Modiwl 5 y…