Diweddariad: Ymchwiliad yn cyhoeddi manylion ychwanegol am ei wrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ymchwiliad gofal iechyd

  • Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2023
  • Pynciau: Modiwl 3

Bydd yr Ymchwiliad yn cynnal ei wrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ei drydydd ymchwiliad (Modwl 3), gan edrych ar effaith y pandemig ar ofal iechyd, ddydd Mawrth 28 Chwefror 10:00.

Mae'r Ymchwiliad wedi cyhoeddi heddiw ei agenda ar gyfer y gwrandawiad:

  • Sylwadau rhagarweiniol o'r Gadair
  • Diweddariad gan y Cwnsler i'r Ymchwiliad, gan gynnwys:
    • Dynodi Cyfranogwyr Craidd
    • Amlinelliad Dros Dro ar gyfer Modwl 3
    • Casglu tystiolaeth
    • Datgeliad i Gyfranogwyr Craidd
    • Yr ymarfer gwrando/Mae Pob Stori'n Cyfrif
    • Dyddiadau gwrandawiadau yn y dyfodol
  • Cyflwyniadau gan Gyfranogwyr Craidd

Bydd y gwrandawiad ar gael i'w wylio ar sianel YouTube yr Ymchwiliad, yn amodol ar dair munud o oedi.

Cynhelir y gwrandawiad hwn yn bersonol yn Leonardo Royal London, 10 Godliman Street, St Paul's, Llundain, EC4V 5AJ. Bydd lleoedd y tu mewn i'r ganolfan wrandawiadau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae'r Ymchwiliad yn gofyn i bawb sy'n mynychu'r gwrandawiad ddilyn ein polisi Covid-19. Ni ddylai unrhyw un sy’n ystyried dod i wrandawiad wneud hynny os oes unrhyw risg bod ganddynt y coronafeirws, neu os ydynt yn teimlo’n sâl ac nad ydynt yn sicr pam.

Bydd materion gweithdrefnol sy'n edrych ar sut y bydd pob ymchwiliad yn rhedeg yn cael eu trafod yn y gwrandawiadau hyn. Bydd cyflwyniadau gan y Cwnsler i’r Ymchwiliad a’r Cyfranogwyr Craidd i helpu’r Ymchwiliad i baratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus, lle clywir tystiolaeth.

Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad y gwrandawiad ar yr un dydd y mae'n dod i ben. Cyhoeddir recordiad o'r gwrandawiad ar wefan yr Ymchwiliad ar ddyddiad diweddarach. Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gais.

Cwestiynau Cyffredin yr Ymchwiliad

Cyfarwyddyd Covid-19 (Saesneg / Cymru)