Ymchwiliad Covid-19 y DU yn lansio ymchwiliad cyntaf

  • Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2022
  • Pynciau: Cyfreithiol, Modiwl 1

Heddiw, lansiodd y Farwnes Heather Hallett Ymchwiliad Covid-19 y DU yn swyddogol ac agor ei hymchwiliad cyntaf i ba mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig. Nododd y Farwnes Hallett amserlen uchelgeisiol hefyd, gyda gwrandawiadau rhagarweiniol yn dechrau eleni, a’r tystion cyntaf i’w galw y gwanwyn nesaf.

Datganiad agoriadol y Farwnes Heather Hallett

Dywedodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett:

“Mae’n amser am ffeithiau, nid barn – a byddaf yn benderfynol yn fy ymchwil am y gwir. Mae’r Ymchwiliad eisoes yn casglu tystiolaeth a byddaf yn cynnal gwrandawiadau cyhoeddus y flwyddyn nesaf. 

“Mae'n rhaid i’n gwaith fod yn gyflym. Mae cwmpas yr Ymchwiliad yn eang, felly byddwn yn dechrau â'r cwestiynau mwyaf taer - a oedd y DU yn barod ar gyfer pandemig? Byddaf yn rhannu rhagor o wybodaeth am ein hymchwiliadau wrth i'n cynlluniau ddatblygu.  a oedd y DU yn barod ar gyfer pandemig? Byddaf yn rhannu mwy o wybodaeth am ein hymchwiliadau wrth i'n cynlluniau ddatblygu. 

“Wrth gwrdd â’r rhai a gollodd anwyliaid yn gynharach eleni, cefais fy nharo gan natur ddinistriol eu colled, wedi’i waethygu gan effaith y cyfyngiadau a oedd yn eu lle ar y pryd ar eu gallu i alaru. Teimlodd miliynau galedi a cholled yn ystod y pandemig, ac i rai ni fydd bywyd byth yn teimlo'r un peth eto.

“Fe wnaf fy ngorau glas i gynnal yr Ymchwiliad mewn ffordd sy’n cydnabod y dioddefaint hwn, ac sy’n ceisio lleihau’r cwmpas i eraill ddioddef yn yr un modd yn y dyfodol.”

Mae'r Cylch Gorchwyl yn helaeth, fel sy'n addas ar gyfer ymchwiliad i ddigwyddiad o'r maint hwn. Er mwyn cyflawni'r dyfnder a'r ehangder sydd ei angen, bydd yr Ymchwiliad yn mabwysiadu ymagwedd fodwlar at ei ymchwiliadau. Bydd ymchwiliad cyntaf yr Ymchwiliad, Modiwl 1, sy’n agor heddiw, yn archwilio gwytnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer y pandemig coronafeirws.

Rhennir Modiwl 2 yn rhannau a bydd yn archwilio llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a phenderfyniadau gan lywodraeth y DU. Bydd modiwlau 2A, 2B a 2C yn mynd i’r afael â’r un materion trosfwaol a strategol o safbwynt yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a chynhelir gwrandawiadau ym mhob gwlad. Bydd Modiwl 3 yn ymchwilio i effaith Covid, ac ymatebion llywodraethol a chymdeithasol iddo, ar systemau gofal iechyd, gan gynnwys ar gleifion, ysbytai a gweithwyr gofal iechyd eraill a staff.

Mae'r Cadeirydd hefyd wedi gosod amserlen ar gyfer y 12 mis nesaf. Bydd gwrandawiadau gweithdrefnol cyntaf yr Ymchwiliad yn dechrau ym mis Medi a mis Hydref ar gyfer Modiwlau 1 a 2. Bydd gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer Modiwl 1 yn dechrau yng ngwanwyn 2023 ar gyfer Modiwl 1 a'r haf ar gyfer Modiwl 2. Bydd rhagor o wybodaeth am amseriadau Modiwl 3 ar gael yn yr wythnosau nesaf.

Mae heddiw'n ddiwrnod pwysig i'r rhai sydd â diddordeb ym Modiwl 1 ystyried a ydynt yn dymuno gwneud cais am statws Cyfranogwr Craidd. Mae gan Gyfranogwyr Craidd rôl ffurfiol arbennig o fewn y modiwl. Bydd ceisiadau ar agor rhwng 21 Gorffennaf a 16 Awst ac mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan yr Ymchwiliad.

Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi modiwlau pellach yn 2023. Disgwylir i'r rhain ymdrin â materion 'system' ac 'effaith' gan gynnwys: brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth gwrthfeirysol; y sector gofal; Caffael y Llywodraeth a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE); profi ac olrhain; Ymatebion busnes ac ariannol y Llywodraeth; anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19; addysg, plant a phobl ifanc; ac effaith Covid-19 ar wasanaethau cyhoeddus ac ar sectorau eraill. Bydd yr Ymchwiliad yn edrych ar effaith y pandemig ar anghydraddoldebau ym mhob cam o'i ymchwiliadau.

Mae’r Cadeirydd wedi addo cyflwyno adroddiadau â dadansoddiadau, canfyddiadau ac argymhellion tra bod ymchwiliadau’r Ymchwiliad yn parhau, fel bod gwersi allweddol o’r pandemig yn cael eu dysgu’n gyflym.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw ar gael i’w weld a’i lawrlwytho isod.

Datganiad agoriadol llawn yn ysgrifenedig

Datganiad agoriadol y Cadeirydd, gyda chyfieithiad i Iaith Arwyddion Prydain

Datganiad agoriadol y Cadeirydd ar ffurf EasyRead