Heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi gosod y Cylch Gorchwyl ar gyfer Ymchwiliad Covid-19 y DU a'r dyddiad y bydd yn cychwyn arno. Mae hyn yn golygu y bydd yr Ymchwiliad yn cael ei sefydlu'n ffurfiol o dan y Ddeddf Ymchwiliadau (2005) ac yn gallu cychwyn ei waith ar 28th Mehefin.
Mae'r Farwnes Hallett yn falch i weld argymhellion a wnaeth hi yn rhan yn awr o'r Cylch Gorchwyl terfynol. Mae'r argymhellion hyn yn deillio o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cylch Gorchwyl, a dderbyniodd dros 20,000 o ymatebion.
Mae'r Farwnes Hallett hefyd wedi rhoi datganiad diweddaru ar fideo, lle mae hi'n gwneud saith addewid i'r cyhoedd am sut y bydd hi'n rhedeg yr Ymchwiliad:
1. Bydd pobl sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig wrth galon gwaith yr Ymchwiliad. Yr yr Ymchwiliad, rydym wedi ymrwymo i wrando ar brofiadau pobl.
2. Bydd yr Ymchwiliad yn gadarn annibynnol. Ni fydd y Farwnes Hallett yn goddef unrhyw ymdrech i gamarwain yr Ymchwiliad, i danseilio ei uniondeb na'i annibyniaeth. Os bydd hi'n cyfarfod ag ymdrech o'r fath, bydd hi'n gwneud ei barn yn hysbys mewn gwrandawiad cyhoeddus.
3. Bydd y Farwnes Hallett yn gwneud popeth yn ei gallu i gynnal Ymchwiliad teg, cytbwys a thrwyadl.
4. Bydd y Farwnes Hallett yn cyflwyno unrhyw argymhellion cyn gynted â phosibl trwy gynhyrchu adroddiadau interim. Yn y ffordd honno, os cânt eu mabwysiadu, mae hi'n gobeithio lleihau neu atal y dioddefaint a'r caledi mewn unrhyw bandemig yn y dyfodol.
5. Bydd yr Ymchwiliad hwn nid yn Llundain yn unig. Bydd tîm yr Ymchwiliad yn teithio o gwmpas y DU i sicrhau ein bod yn clywed oddi wrth cymaint o bobl â phosibl. Mae'r Farwnes Hallett yn eithriadol o ymwybodol fod profiadau yn wahanol ledled y DU.
6. Bydd yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal yn agored. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar ein gwefan er mwyn i bawb allu gwybod pa gynnydd rydym wedi'i wneud.
7. Yn olaf, bydd yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal yn effeithlon ac mor gyflym ag y gallwn ei wneud.
Mae'r Cylch Gorchwyl yn gosod yr amlinelliad ar gyfer yr Ymchwiliad, a bydd gan Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett y disgresiwn i archwilio materion yn fanylach fel rhan o gwmpas yr Ymchwiliad.
Rydym wedi cychwyn y gwaith eisoes i baratoi ar gyfer dechrau'r gwrandawiadau cyhoeddus yn 2023. Rydym yn gweithio'n galed i ateb yr amserlen uchelgeisiol hon a bydd yr Ymchwiliad yn dechrau'r broses ffurfiol o gyrchu ac asesu tystiolaeth er mwyn i ni allu cynllunio'r gwrandawiadau hyn.
Mae eisiau clywed gan bobl ledled y DU ar yr Ymchwiliad, gan sicrhau bod y rheini sydd wedi dioddef yn cael y cyfle i gymryd rhan yng ngwaith yr Ymchwiliad. Byddwn yn cyflwyno prosiect gwrando yn yr Hydref.
Dolenni
Datganiad fideo'r Cadeirydd i'r cyhoedd
Datganiad fideo'r Cadeirydd i'r cyhoedd - trawsgrifiad Cymraeg
Cylch Gorchwyl terfynol ar gyfer yr Ymchwiliad