Er mwyn caniatáu archwiliad llawn a manwl o’r holl wahanol agweddau ar y pandemig a gwmpesir yn y Cylch Gorchwyl, mae’r Farwnes Hallett wedi penderfynu rhannu gwaith ymchwilio'r Ymchwiliad yn Fodiwlau. 

Cyhoeddir Modiwlau'r Ymchwiliad ac yna cânt eu hagor yn eu trefn, ac ar ôl hynny ystyrir ceisiadau Cyfranogwyr Craidd. Mae gan bob modiwl wrandawiad rhagarweiniol cyfatebol a gwrandawiad llawn, a chyhoeddir y manylion ohonynt gan yr Ymchwiliad.

Modiwl 1: Gwytnwch a pharodrwydd

Agorodd Modiwl 1 ar 21 Gorffennaf 2022 ac mae wedi'i ddynodi i ystyried y parodrwydd ar gyfer y pandemig. Mae'n asesu a oedd cynllun digonol ar gyfer y pandemig ac a oedd y DU yn gwbl barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw. Bydd y modiwl hwn yn cyffwrdd ar y system gyfan o argyfyngau sifil gan gynnwys adnoddau, rheoli risg a pharodrwydd ar gyfer pandemig. Bydd yn craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth mewn perthynas â chynllunio ac yn ceisio nodi gwersi y gellir eu dysgu.

The application process to become a Core Participant for Module 1 has now closed. Module 1 held its first Preliminary Hearing on 4 October 2022 and will hold a further Preliminary Hearing in Spring 2023. The oral evidence hearings are scheduled for Summer 2023.

Modiwl 2: Gwneud penderfyniadau craidd y DU; llywodraethu gwleidyddol

Agorodd Modiwl 2 ar 31 Awst 2022 ac mae wedi’i rannu’n rhannau. Yn gyntaf, bydd yn edrych ar lywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau ar gyfer y DU. Bydd yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau’r llywodraeth ganolog, perfformiad gwleidyddol a gwasanaeth sifil yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas â llywodraethau yn y gweinyddiaethau datganoledig a’r sectorau lleol a gwirfoddol. Bydd Modiwl 2 hefyd yn asesu'r penderfyniadau a wneir am fesurau nad ydynt yn rhai fferyllol a'r ffactorau a gyfrannodd at eu gweithredu.

Bydd Modiwlau 2A, B ac C yn mynd i’r afael â’r materion strategol a throsfwaol o safbwynt yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Caiff y rhain eu trin fel modiwlau unigol ar wahân a chynhelir gwrandawiadau cyhoeddus ar eu cyfer yn y gwledydd y maent yn ymwneud â hwy.

The application process to become a Core Participant for Module 2, 2A, 2B and 2C has now closed. Module 2 held its first Preliminary Hearing on 31 October 2022 and will hold a further Preliminary Hearing in Spring 2023, with oral evidence hearings scheduled for Summer 2023. Modules 2A and 2B had their Preliminary Hearings on 1 November 2022 and 2C on 2 November 2022. The timetable for oral hearings for these modules will be issued shortly.

Modiwl 3: Effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd ym mhedair gwlad y DU

Bydd Modiwl 3 yn agor ar ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2022. Bydd yn ystyried ymateb y llywodraeth a chymdeithas i Covid yn ogystal â dadansoddi'r effaith a gafodd y pandemig ar systemau gofal iechyd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys llywodraethu gofal iechyd, gofal sylfaenol, ôl-groniadau’r GIG, effeithiau rhaglenni brechu ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ogystal â diagnosio a chymorth covid hir.

The application process to become a Core Participant for Module 3 has now closed. Module 3 will hold its first Preliminary Hearing on 28 February 2023.

Bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf, a phryd hynny bydd gwybodaeth allweddol yn cael ei lanlwytho ar y dudalen hon. Bydd pob modiwl yn ymchwilio i faterion ledled y DU gyfan, gan gynnwys yng ngweinyddiaethau datganoledig yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.. Bydd hyn yn cwmpasu materion 'system' yn ogystal ag 'effaith' ledled y DU gan gynnwys:

  • Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth wrthfeirol
  • Y sector gofal
  • Caffael gan y llywodraeth a PPE
  • Profi ac olrhain
  • Ymatebion busnes ac ariannol y Llywodraeth
  • Anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19
  • Addysg, plant a phobl ifanc
  • Gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys darpariaeth rheng flaen gan weithwyr allweddol