Dogfennau
- Datganiadau Agoriadol
- Tystiolaeth
- Trawsgrifiad
- Modiwl 1 Amlinelliad Dros Dro o'r Cwmpas
- Rhestr o Gyfranogwyr Craidd Modiwl 1
Amserlen
Agenda
10:00 am
- Sylwadau agoriadol y Cadeirydd
- Datganiad Agoriadol gan Gwnsler yr Ymchwiliad
- Datganiadau Agoriadol gan Gyfranogwyr Craidd
2:00 yp
- Datganiadau Agoriadol gan Gyfranogwyr Craidd
Sylwch fod yr amseriadau yn rhai dros dro a gallant newid.
Ffilm Effaith Modiwl 1
Cafodd y ffilm ganlynol ei dangos yn ystod y gwrandawiad cyhoeddus cyntaf ar 13 Mehefin 2023. Yn ei sylwadau agoriadol, dywedodd y Cadeirydd, y Farwnes Hallett:
“Mewn eiliad rydyn ni'n mynd i wylio ein ffilm effaith gyntaf - lle mae pobl o bob rhan o bedair gwlad y DU yn siarad am yr effaith ddinistriol y mae'r pandemig wedi'i chael arnyn nhw a'u hanwyliaid.
“Mae’r ffilm yn hynod deimladwy. Mae'n golygu bod pobl yn siarad yn glir iawn am eu dioddefaint a'u colled - mewn ffordd a fydd yn dod ag atgofion anodd iawn yn ôl i lawer o bobl.
“Rwyf am ddiolch i bawb a gytunodd i gael eu ffilmio fel rhan o hyn – gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ffilm gyntaf hon. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd oedd hi i ail-fyw'r profiadau hynny o flaen camera. Ond credwch, roedd yn werth chweil. Rydych chi wedi cofnodi eich profiad ar gyfer y dyfodol ac wedi fy rhybuddio am faterion y mae angen i mi eu harchwilio.”
Mae'r ffilm hon yn cynnwys deunydd sy'n peri gofid. Mae gan wefan yr Ymchwiliad wybodaeth am nifer o sefydliadau sy’n darparu cymorth ar wahanol faterion. Cysylltwch ag un ohonyn nhw os oes angen help arnoch chi.