Digwyddiadau Mae Pob Stori o Bwys


Mae digwyddiadau Mae Pob Stori’n Bwysig wedi bod yn rhan o’r ymarfer ymgysylltu cyhoeddus mwyaf a gynhaliwyd erioed gan ymchwiliad cyhoeddus yn y DU. Mae’r digwyddiadau wedi dod i ben a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu stori gyda ni. 

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi cynnal 25 o ddigwyddiadau ar hyd a lled y DU. Teithiodd tîm yr Ymchwiliad i ddinasoedd a threfi yn y pedair gwlad, gan siarad â dros 10,000 o bobl mewn lleoedd mor bell oddi wrth ei gilydd â Southampton, Oban, Enniskillen, Caerlŷr a Llandudno.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i ddod i’n gweld gan ein bod wedi ymweld â threfi ar draws y DU. Roedd pob stori a glywsom yn unigryw ac yn hynod bwysig, a chawsom ein syfrdanu gan yr hyn y dewisodd pobl ei rannu gyda ni. Rydym wedi clywed am gyfleoedd a gollwyd, heriau dyddiol, profedigaeth a salwch, ond hefyd am gymunedau yn dod at ei gilydd a ffyrdd newydd o gysylltu â’n cymunedau a’n hanwyliaid.

Ben Connah, Ysgrifennydd yr Ymchwiliad

Os nad ydych wedi rhannu eich stori, mae amser o hyd. 

Ymwelwch www.everystorymatters.co.uk cyn 23 Mai, i gael mynediad at y ffurflen ar-lein.