Brechlynnau a therapiwteg (Modiwl 4)


Mae'r modiwl hwn yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar ystod o faterion sy'n ymwneud â datblygu brechlynnau Covid-19 a gweithredu'r rhaglen gyflwyno brechlynnau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Archwiliwyd materion sy'n ymwneud â thrin Covid-19 trwy feddyginiaethau presennol a rhai newydd ar yr un pryd. Bydd ffocws ar wersi a ddysgwyd a pharatoadau ar gyfer y pandemig nesaf.

Archwiliwyd materion thematig yn ymwneud â chymeriant anghyfartal o frechlynnau yn ystod gwrandawiadau, gan gynnwys nodi grwpiau a oedd yn destun cymeriant anghyfartal, achosion posibl cymeriant anghyfartal o'r fath ac ymateb y Llywodraeth.

Bydd y modiwl yn mynd i'r afael â materion o bryder cyhoeddus diweddar yn ymwneud â diogelwch brechlynnau a'r system gyfredol ar gyfer iawndal ariannol o dan Gynllun Talu Niwed trwy Frechiad y DU.

Cynhaliwyd gwrandawiadau Modiwl 4 o 14 Ionawr – 31 Ionawr 2025. Gellir gweld dyddiadau gwrandawiadau blaenorol ar gyfer y modiwl hwn ar wefan yr Ymchwiliad. tudalen gwrandawiadau.