Diweddariad gan Gadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig, Y Farwnes Hallett

  • Cyhoeddwyd: 8 Ebrill 2022
  • Pynciau: Ymgynghoriad

Ymgynghoriad Cyhoeddus 

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â Chylch Gorchwyl yr Ymchwiliad wedi cau bellach. Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad, mae tîm yr Ymchwiliad a minnau wedi cwrdd â thros 150 o deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth a nifer o gynrychiolwyr ystod eang o grwpiau sydd â diddordeb.

Rwy’n deall y gallai ymwneud â’r Ymchwiliad fod wedi bod yn broses anodd a thrallodus i lawer o bobl.  Hoffwn gyfleu fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu.  Hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i aelodau teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth a siaradodd â mi yn ein cyfarfodydd preifat yng Nghaerdydd, Caerwysg, Caerwynt, Llundain, Belfast, Caeredin, Newcastle, Caerlŷr, Caergrawnt, Leeds a Lerpwl. Roedd eu cyfraniadau’n deimladwy iawn ac o gymorth mawr.

Clywodd fy nhîm a minnau hefyd gan oroeswyr Covid Hir ac fe gwrddon ni ag arbenigwyr a chynrychiolwyr o’r sectorau canlynol: cydraddoldebau, iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ôl-16, plant, y system Cyfiawnder, elusennau, arweinwyr ffydd, y gymuned wyddonol, gweithwyr rheng flaen a gweithwyr allweddol, llywodraeth leol, teithio a thwristiaeth, busnes, y celfyddydau, sefydliadau treftadaeth, chwaraeon a’r diwydiant hamdden. Bydd trawsgrifiad o’r cyfarfodydd hynny’n cael ei gyhoeddi ar y wefan. 

Hoffwn ddiolch hefyd i’r miloedd o bobl a roddodd amser i lenwi’r ymgynghoriad ar- lein. Mae tîm yr Ymchwiliad wrthi ar hyn o bryd yn trefnu a dadansoddi’r ymatebion a bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai. 

Bydd yr holl gyfraniadau o gymorth i mi wrth i mi gynghori’r Prif Weinidog ynglŷn â chynnwys y Cylch Gorchwyl, sy’n gosod y sylfaen ar gyfer gwaith yr Ymchwiliad. Fodd bynnag, yr adeg y byddaf fi’n penderfynu ar gwmpas yr Ymchwiliad ydy’r adeg y bydd manylion y materion a fydd yn cael eu hymchwilio yn dod yn fwy eglur.  Mae’n bosib na fydd rhai o’r awgrymiadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad yn newid y Cylch Gorchwyl ei hun, ond gallant fod yn hynod berthnasol wrth ddatblygu’r cwmpas. 

Y camau nesaf

Rwy’n gobeithio rhoi fy argymhellion terfynol ynglŷn â Chylch Gorchwyl Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig i’r Prif Weinidog ym mis Mai. Bydd yntau wedyn yn gwneud ei benderfyniad terfynol ynglŷn â’r Cylch Gorchwyl. Unwaith y caf fi ei benderfyniad, bydd yr Ymchwiliad yn dechrau’n ffurfiol ar ei waith.

Yn y cyfamser, mae fy nhîm a minnau’n gweithio’n galed i ddadansoddi’r materion niferus y bydd angen i’r Ymchwiliad eu cwmpasu ac i greu cynllun ar gyfer y ffordd rydym yn bwriadu gweithio a chasglu tystiolaeth. Byddwn yn dechrau casglu tystiolaeth cyn gynted â phosib wedi i’r Ymchwiliad gael ei sefydlu’n ffurfiol.

Yn ychwanegol, rydym yn cynllunio Prosiect Gwrando ac yn gobeithio ei lansio yn yr hydref. Mae llawer o’r rhai a gafodd brofedigaeth wedi sôn wrthyf am golli eu hanwyliaid, am eu galar a’r effaith ar eu hiechyd meddwl. Drwy’r Prosiect Gwrando, bydd yr Ymchwiliad yn ceisio dod i ddeall mwy am sut mae’r pandemig wedi cael effaith ar bobl, mewn sefyllfa llai ffurfiol na gwrandawiad cyhoeddus.

Unwaith eto, hoffwn gyfleu fy niolch diffuant i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses ymgynghori.

Yr eiddoch yn gywir

Llofnod y Farwnes Hallett

Y Farwnes Heather Hallet, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig