Heddiw (dydd Llun 12 Mai 2025) mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi ei gofnod diweddaraf Mae Pob Stori o Bwys. Mae'n dwyn ynghyd brofiadau uniongyrchol, ac yn aml heriol, cyhoedd y DU o systemau profi, olrhain ac ynysu gwahanol y pedair gwlad a weithredwyd yn ystod pandemig Covid-19.
Mae Pob Stori o Bwys yw'r ymarfer ymgysylltu cyhoeddus mwyaf a gynhaliwyd erioed gan ymchwiliad cyhoeddus yn y DU. Mae degau o filoedd o gyfranwyr wedi rhannu eu straeon gydag Ymchwiliad Covid-19 y DU, gan helpu i lunio cofnodion thematig i lywio ei ymchwiliadau parhaus.
Cyhoeddir y cofnod diweddaraf ar ddiwrnod agoriadol gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer seithfed ymholiad yr Ymchwiliad: Modiwl 7 ‘Profi, Olrhain ac Ynysu’. Bydd y modiwl yn ystyried y polisïau a'r strategaethau a ddatblygwyd a'u defnyddio i gefnogi'r system brofi, olrhain ac ynysu gan Lywodraeth y DU, a'r gwahanol systemau a fabwysiadwyd yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae'r cofnod Mae Pob Stori o Bwys hwn yn dwyn ynghyd brofiadau cyfranwyr o'r gwahanol systemau profi, olrhain ac ynysu a gyflwynwyd yn ystod y pandemig. Mae'r cofnod yn nodi ystod eang o brofiadau gan gynnwys:
- Teimladau cryf ynghylch ‘gwneud y peth iawn’ a dyletswydd gofal dros eraill, dros y teulu neu’r gymuned ehangach.
- Cymunedau lleol yn camu ymlaen i helpu pobl a'r sector gwirfoddol yn darparu cymorth amhrisiadwy i'r rhai sydd ar eu pen eu hunain wrth ynysu.
- Pryderon pobl ynghylch diogelwch data a phreifatrwydd a sut yr effeithiodd hyn ar os oeddent yn cymryd rhan mewn olrhain cysylltiadau neu peidio.
- Newid yn agweddau pobl o ran dilyn canllawiau ar ôl i newyddion ddod i’r amlwg am wleidyddion a swyddogion yn torri rheolau’r cyfnod clo.
- Pryderon a godwyd gan rai o'r pwysau a roddir gan gyflogwyr i beidio â defnyddio apiau olrhain cysylltiadau neu i beidio â hunanynysu a theimladau o ddicter a rhwystredigaeth a ddilynodd
- I rai, gwaethygodd cyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes o ganlyniad i hunan-ynysu, gan gynnwys byw gyda phryder.
- Roedd gofalwyr plant ifanc a gofalwyr y rhai ag anghenion ychwanegol fel dementia yn ei chael hi'n anodd ac yn ofidus cynnal y profion.
- Diffyg ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ariannol ac ymarferol i helpu pobl i hunanynysu.
- Pobl yn rhannu pa mor hygyrch a chyfleus y daethant o hyd i ganolfannau profi
Mae cofnodion Mae Pob Stori o Bwys yn cynorthwyo’r Cadeirydd, y Farwnes Heather Hallett, i ddod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae dau gofnod wedi cael eu cyhoeddi hyd yma,‘Systemau Gofal Iechyd’' ym mis Medi 2024 a '‘Brechlynnau a Therapiwteg’ym mis Ionawr 2025.
Mae amser o hyd i'r cyhoedd rannu eu stori ar-lein gyda Mae Pob Stori o BwysMae'r Ymchwiliad yn annog unrhyw un sydd am gyfrannu i wneud hynny cyn 23 Mai, pan fydd y ffurflen ar-lein yn cau.
Dyma eich cyfle olaf i gyfrannu at yr ymarfer ymgysylltu mwyaf a gynhaliwyd gan unrhyw ymchwiliad yn y DU." Mae Pob Stori o Bwys yn rhan hanfodol o’r Ymchwiliad a bydd y cofnodion hyn yn sicrhau bod pawb a gymerodd yr amser i rannu eu profiad o’r pandemig yn chwarae rhan wrth lunio argymhellion ar gyfer y dyfodol.
O’r cychwyn cyntaf roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid i hyn fod yn ymdrech ledled y DU, a dyna pam y gwnaethon ni gymryd yr amser i ymweld â dros 25 o leoliadau yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cymerodd ein staff ran mewn dros 10,000 o sgyrsiau yn y digwyddiadau cyhoeddus hyn, rhan o dros 58,000 o straeon a rannwyd gyda Mae Pob Stori o Bwys.
Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd eu hamser ac sydd wedi rhoi gwell cipolwg i ni ar fywydau yn ystod y pandemig. Rydyn ni wedi clywed am dristwch ac unigedd, ond hefyd am gymunedau'n dod at ei gilydd a straeon am garedigrwydd unigol a fydd yn aros gyda ni i gyd.
Canfu pobl fod effeithiau hunanynysu wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl:
Roeddwn i'n teimlo'n unig iawn. Dw i'n meddwl nes i grio'r rhan fwyaf o'r amser pan oedd yn rhaid i mi [hunan-]ynysu. Chi'n gwybod, oherwydd fy mod i'n sâl ac roedd yn rhaid i mi ofalu am saith o blant oherwydd nad oedd neb yn gallu dod i mewn i'm helpu... Fel y dywedais i, roeddwn i'n teimlo'n bryderus iawn, roeddwn i'n teimlo'n isel fy ysbryd.
Wnaeth e ddim effeithio’n fawr arnom ni [rhieni]. Dw i'n meddwl iddo effeithio mwy ar fy mab oherwydd nad oedd yn gallu gweld ei gariad ac, wyddoch chi, roedden nhw mewn cariad mawr ac roedden nhw'n ei chael hi'n anodd iawn yn feddyliol.
Doeddwn i] ddim yn gallu mynd allan, doeddwn i ddim yn gallu mynd am dro; fe effeithiodd [hunanynysu] ar fy iechyd meddwl, fy iechyd. Roeddwn i'n meddwl y byddai pethau'n gwella, ond wnaeth e ddim; cymerodd amser hir
mi roedd hyd yn oed yn anoddach oherwydd fy mod i’n byw gyda phartner camdriniol oedd yn hunanol iawn ac nad oedd yn cadw at y rheolau, nid oedd yn meddwl eu bod yn berthnasol iddo. Ac felly, roeddwn i'n ceisio cadw fy mab yn ddiogel, yn ceisio brwydro ag ef, roedd yn gyfnod anodd iawn
Adroddodd llawer o bobl am ddryswch drwy gydol y broses gyfan:
Yr hunanynysu, mae pawb yn deall. Profi, mae pawb yn deall. Y darn olrhain, boed efallai na chafodd ei egluro pam ei fod yn bwysig neu sut mae'n gweithio, neu sut mae'r dechnoleg yn gweithio, neu beth yw'r un, dau, tri cam clir iawn y mae angen i chi eu cymryd. Dw i'n meddwl roedd y darn yna i mi, roedd dryswch.
Byddwn i’n dweud bod yna lawer o apiau, i gyd ar yr un pryd. Ac heblaw eich bod chi'n gwybod beth oeddech chi'n ei wneud, roedd hi'n hawdd mynd ar goll ychydig a defnyddio'r un anghywir fel y gwnes i ychydig o weithiau, yn amlwg.
Roedd pobl yn gweld y rhaglen fel ffordd bwysig o amddiffyn eu hunain ac eraill rhag Covid-19
Yn bennaf, [cadw at ganllawiau hunanynysu] oedd oherwydd nad oeddwn i eisiau eu lladd [rhieni'r cyfrannwr]...mae'n rhaid i chi fod yn realistig, ac mae'n rhaid i chi amddiffyn pobl. Roedden ni'n gwneud yr hyn a ddywedwyd wrthym ni a dyna ni, chi'n gwybod?
Roeddwn i mewn grŵp risg uchel, felly roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ddilyn y canllawiau a chael fy mhrofi. Roedd yn amlwg i mi
Teimlai rhai pobl fod cefnogaeth yn y gymuned yn hanfodol ac yn cael ei chroesawu:
Roedd gennym ni grŵp Covid ar WhatsApp a gynhaliwyd gan ein cyngor lleol, a gymerodd bob stryd a’i sefydlu fel bod pawb oedd ar-lein yn amlwg yn cael y cyswllt hwnnw. Ac, fe geision nhw roi gwybod i bobl pa gartrefi nad oedd ganddyn nhw'r mynediad fel y gallai pobl leol eu helpu os nad oedd ganddyn nhw unrhyw fynediad [at hanfodion].
Roedd eraill yn pryderu am y canlyniadau i'r rhai a geir yn torri eu ynysiad.
Ond roedd yr ofn hwn y gallech chi gael dirwy, os byddech chi'n mynd allan. Ac yna meddyliais, 'O Dduw, os byddaf, mewn gwirionedd - gan nad ydw i'n ddinesydd Prydeinig, os byddaf yn cael dirwy, os dywedant, 'Rydych chi'n gwneud rhywbeth na ddylech chi ei wneud', gallai fod perygl o golli fy hawl i aros yn y wlad hon.
Pan ddaeth gwybodaeth i’r amlwg am sgandalau’r llywodraeth... ac roedd pobl yn blino ar reolau ynysu llym, dwi’n meddwl dyna pryd y cyrhaeddodd sefyllfa lle dechreuodd pobl wrthryfela, a dechreuodd pobl ddweud na, digon yw digon. Dw i'n meddwl ei fod wedi cyrraedd pwynt, mi fydda i'n hollol onest gyda chi, roedd pobl yn mynd, 'Chi'n gwybod beth, os ydw i'n mynd i farw, dw i'n mynd i farw gyda fy holl deulu o'm cwmpas.
Byddai pobl hefyd wedi hoffi gweld mwy yn cael ei wneud i wrthweithio gwybodaeth anghywir
Roedd llawer o gamwybodaeth a gwybodaeth anghywir ynghylch ap NHSCovid ar gyfer ffonau clyfar. Roeddwn i’n eithaf hapus i ddefnyddio’r ap oherwydd roeddwn i’n meddwl ei fod yn offeryn defnyddiol ond roedd llawer o bobl rwy’n eu hadnabod naill ai heb ei lawrlwytho neu wedi’i dynnu oddi ar eu ffonau clyfar oherwydd eu bod nhw’n meddwl bod y llywodraeth yn monitro eu symudiadau ac roedd rhywfaint o broblem gyda datblygiad yr ap.
Roedd pobl yn dioddef o effeithiau gorfod ynysu eu hunain:
Yr un pythefnos hwnnw, roeddwn i'n meddwl ei fod yn ofnadwy. Ar y dechrau roedd yn hwyl, ond roeddwn i wedi fy nghyfyngu i ystafell. Doeddwn i ddim wedi fy nghyfyngu i dŷ, fel rydw i nawr, pe bawn i'n [hunan-]ynysu. Roedd gen i wely dwbl ac roedd gen i gi bach oedd yn torri dannedd, ac roedd yn llawn straen, yn enwedig pan ddywedwyd wrthai na allwn fynd allan. Dyna wnaeth i mi eisiau ei herio, mewn gwirionedd, oedd pan oedd rhywun yn dweud wrthai na allaf adael fy ystafell, na allaf gerdded y ci. Dyna wnaeth i mi feddwl, 'Na, dydw i ddim yn gwneud hynny.
Mae Pob Stori o Bwys yn gyfle i’r cyhoedd rannu’r effaith a gafodd y pandemig ar eu bywyd ag Ymchwiliad Covid-19 y DU – heb y ffurfioldeb o roi tystiolaeth na mynychu gwrandawiad cyhoeddus. Os ydych chi eisiau adrodd eich stori pandemig, gallwch chi barhau i gyfrannu at Mae Pob Stori o Bwys ar-lein tan ddydd Gwener 23 Mai.