Hoffai Cadeirydd yr Ymchwiliad, Y Farwnes Hallett, ddiolch i bawb a roddodd amser i rannu eu safbwyntiau yn ei ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r Cylch Gorchwyl drafft. Y Cylch Gorchwyl fydd yn nodi sut bydd yr Ymchwiliad yn mynd ati i gynnal ei waith, ac fe gafwyd dros 20,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r bedair wythnos o ymgynghori cyhoeddus wedi dod i ben bellach.
Dros y bedair wythnos, cwrddodd yr Ymchwiliad â thros 150 o deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yng Nghaerdydd, Caerwysg, Caerwynt, Llundain, Belfast, Caeredin, Newcastle, Caergrawnt, Caerlŷr, Leeds a Lerpwl. Roedd y profiadau y rhoddodd pobl amser i’w rhannu â ni yn rhai teimladwy ac o gymorth mawr wrth i ni ddod i ddeall sut cafodd y pandemig effaith ar deuluoedd a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Bu’r Ymchwiliad yn cyfarfod hefyd â chynrychiolwyr o’r sectorau canlynol er mwyn clywed eu safbwyntiau ynglŷn â’r Cylch Gorchwyl: cydraddoldebau, iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ôl-16, plant, cyfiawnder, elusennau, grwpiau ffydd, y gymuned wyddonol, gweithwyr rheng flaen a gweithwyr allweddol, llywodraeth leol, teithio a thwristiaeth, busnes, y celfyddydau a threftadaeth, a chwaraeon a hamdden.
Rhannodd pobl eu safbwyntiau ynglŷn â’r hyn ddylai fod yn destun i’r Ymchwiliad, beth y dylai edrych arno gyntaf, a ph’un ai dylai’r Ymchwiliad osod dyddiad terfynu ar gyfer ei wrandawiadau. Gwahoddwyd pobl i rannu awgrymiadau hefyd ynglŷn â sut y gellir rhoi llais i bobl y mae’r pandemig wedi effeithio’n ddifrifol arnynt, neu sydd wedi colli anwyliaid, a sut gallant fod yn rhan o’r Ymchwiliad.
Bydd yr Ymchwiliad yn cychwyn nawr ar y gwaith pwysig o drefnu a dadansoddi’r holl ymatebion a dderbyniwyd ar-lein ac mewn cyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett, yn ystyried yr adborth yn ofalus cyn gwneud argymhellion i'r Prif Weinidog ynglŷn â’r Cylch Gorchwyl terfynol. Bydd ei hargymhellion hi, ynghyd ag adroddiad yn rhoi crynodeb o’r ymgynghoriad cyhoeddus a chrynodebau o gyfarfodydd gyda theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai. Bydd trawsgrifiadau o gyfarfodydd bord gron gyda sectorau ar gael hefyd. Bydd yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad ar- lein yn parhau’n ddienw.
Mae’r Farwnes Hallett wedi cyhoeddi diweddariad yn amlinellu’r camau nesaf ar gyfer yr ymchwiliad.