Gwneud penderfyniadau craidd y DU; llywodraethu gwleidyddol - Alban (Modiwl 2A)


Agorodd Modiwl 2 ar 31 Awst 2022 ac mae wedi’i rannu’n rhannau. Yn gyntaf, bydd yn edrych ar lywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau ar gyfer y DU. Bydd yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau’r llywodraeth ganolog, perfformiad gwleidyddol a gwasanaeth sifil yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas â llywodraethau yn y gweinyddiaethau datganoledig a’r sectorau lleol a gwirfoddol. Bydd Modiwl 2 hefyd yn asesu'r penderfyniadau a wneir am fesurau nad ydynt yn rhai fferyllol a'r ffactorau a gyfrannodd at eu gweithredu.

Bydd Modiwlau 2A, B ac C yn mynd i’r afael â’r materion strategol a throsfwaol o safbwynt yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Caiff y rhain eu trin fel modiwlau unigol ar wahân a chynhelir gwrandawiadau cyhoeddus ar eu cyfer yn y gwledydd y maent yn ymwneud â hwy.

Mae'r broses ymgeisio i ddod yn Gyfranogwr Craidd ar gyfer Modiwl 2, 2A, 2B a 2C bellach wedi cau.

Cynhaliodd Modiwl 2A ei Wrandawiad Rhagarweiniol cyntaf ar 1 Tachwedd 2022 a chynhaliodd Wrandawiadau Rhagarweiniol pellach yn 2023, gyda gwrandawiadau tystiolaeth lafar wedi’u hamserlennu ar gyfer 16 Ionawr 2024.

Mae'r amserlen ar gyfer gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 2A bellach ar gael.