Effaith Pandemig Covid-19 ar Systemau Gofal Iechyd Pedair Gwlad y DU (Modiwl 3) - Gwrandawiadau Cyhoeddus


Bydd Modiwl 3 yn edrych i mewn i ymateb y llywodraeth a chymdeithas i Covid-19 yn ogystal â dadansoddi'r effaith a gafodd y pandemig ar systemau gofal iechyd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys llywodraethu gofal iechyd, gofal sylfaenol, ôl-groniadau’r GIG, effeithiau rhaglenni brechu ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ogystal â diagnosis a chymorth covid hir.

Darllediad

Mae darllediad byw y gwrandawiad hwn wedi dod i ben. Gallwch chi ei chwarae yn ôl ar ein sianel YouTube (yn agor mewn tab newydd). Bydd recordiad o'r darllediad ar gael yma yn fuan.

Agenda

Diwrnod Agenda
dydd Iau
10 Hydref 24
Amser cychwyn 10:00 am
Bore

Yr Athro Jonathan Wyllie (Cyn Lywydd Cyngor Dadebru y DU)
Alex Marshall (Llywydd Undeb Gweithwyr Annibynnol Prydain Fawr, Grŵp Gweithwyr Gofal Iechyd Mudol Rheng Flaen)
Matt Stringer (Consortiwm Elusennau Anabledd, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall)

Prynhawn

Yr Athro Habib Naqvi MBE (Prif Weithredwr Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG)
Johnathan Rees (Fferyllydd, Cymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol - tystiolaeth effaith)

Amser gorffen 4:30pm