Diweddariad: Lansiwyd Modiwl 9 'Ymateb economaidd'; Dyddiadau gwrandawiadau newydd wedi'u cyhoeddi

  • Cyhoeddwyd: 9 Gorffennaf 2024
  • Pynciau: Gwrandawiadau, Modiwl 9, Modiwlau

Heddiw, mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, Y Farwnes Hallett, wedi agor nawfed archwiliad yr Ymchwiliad gan archwilio'r ymateb economaidd i'r pandemig. 

Bydd Modiwl 9 yn archwilio'r ymyriadau economaidd a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoleidig mewn ymateb i'r pandemig Covid-19. Bydd hyn yn cynnwys y cymorth economaidd ar gyfer busnesau, swyddi, yr hunangyflogedig, pobl agored i niwed, a'r rheini ar fudd-daliadau, ac effaith ymyriadau economaidd allweddol. Bydd hefyd yn ystyried cyllid ychwanegol a roddir i wasanaethau cyhoeddus perthnasol a'r sectorau gwirfoddoll a chymunedol. Mae rhagor o fanylion am feysydd yr ymchwiliad yn cael eu cynnwys yn y cwmpas amodol ar gyfer Modiwl 9.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cyfranogwyr Craidd ar agor o 9 Gorffennaf i 6 Awst 2024. Mae’r broses ar gyfer gwneud cais i fod yn Gyfranogwr Craidd wedi’i nodi yn y Protocol Cyfranogwyr Craidd, sy'n nodi sut i wneud cais i ddod yn Gyfranogwr Craidd i'r Ymchwiliad yn Gymraeg.

Bydd y gwrandawiad Rhagarweiniol cyntaf ar gyfer Modiwl 9 ar 23 Hydref 2024 yn Llundain.

Dyddiadau gwrandawiadau modiwl 6

Mae'r Cadeirydd hefyd yn gallu cadarnhau dyddiadau'r gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer chweched archwiliad yr Ymchwiliad fydd yn archwilio'r sector Gofal ledled y DU. Bydd tystiolaeth lafar yn cael ei chlywed rhwng 30 Mehefin 2025 a 31 Gorffennaf 2025. 

Mae'r Cadeirydd yn anelu at ddod â gwrandawiadau cyhoeddus yr Ymchwiliad i ben yn 2026. 

Mae'r Ymchwiliad yn cael ei rannu'n archwiliadau gwahanol - neu 'Fodiwlau' - fydd yn archwilio gwahanol rannau o barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig ac ymateb iddo a'i effaith. 

Hyd yn hyn, mae'r Ymchwiliad wedi agor naw archwiliad. 

Mae'r gwrandawiadau ar gyfer Modiwl 1 (Parodrwydd a gwytnwch y DU ar gyfer pandemig) a Modiwl 2, 2A, 2B, a 2C (Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig) oll wedi cael eu cwblhau.

Er mwyn sicrhau bod argymhellion yr Ymchwiliad yn amserol, mae'r Cadeirydd wedi addo cyhoeddi adroddiadau rheolaidd. Bydd adroddiad Modiwl 1 yr Ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi ar 18 Gorffennaf 2024. 

Mae amserlen y gwrandawiadau wedi'i diweddaru fel a ganlyn:

Modiwl Agorwyd ar… Wrthi'n ymchwilio… Dyddiadau
3 8 Tachwedd 2022 Effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd   Dydd Llun 9 Medi – Dydd Iau 10 Hydref 2024
Egwyl: Dydd Llun 14 Hydref – Dydd Gwener 25 Hydref 2024
Dydd Llun 28 Hydref – Dydd Iau 28 Tachwedd 2024
4 5 Mehefin 2023 Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth gwrth-feirws ledled y DU  Dydd Mawrth 14 Ionawr – Dydd Iau 30 Ionawr 2025
5 24 Hydref 2023 Caffael Dydd Llun 3 Mawrth – Dydd Iau 3 Ebrill 2025
7 19 Mawrth 2024 Profi, olrhain ac ynysu Dydd Llun 12 Mai – Dydd Gwener 30 Mai 2025
6 12 Rhagfyr 2023 Y sector gofal Dydd Llun 30 Mehefin – Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025
8 21 Mai 2024 Plant a phobl ifanc Hydref 2025
9 9 Gorffennaf 2024 Ymateb economaidd Gaeaf 2025