Mae Pob Stori O Bwys: Ymchwiliad yn ymweld â Birmingham i glywed profiadau pandemig pobl, contractau newydd yn cael eu dyfarnu

  • Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2023
  • Pynciau: Mae Pob Stori O Bwys

Roedd Cadeirydd yr Ymchwiliad y Farwnes Hallett ac Ysgrifennydd yr Ymchwiliad Ben Connah yn Birmingham ddoe, yn clywed ac yn dysgu gan bobl leol am eu profiadau pandemig. Hwn oedd y cyntaf mewn cyfres wedi'i chynllunio o ddigwyddiadau Mae Pob Stori O Bwys, lle gwahoddir y cyhoedd i rannu'n uniongyrchol sut yr effeithiodd y pandemig arnynt. 

Ochr yn ochr ag aelodau eraill o dîm yr mchwiliad, cyfarfu Ben Connah â'r cyhoedd yn Llyfrgell Birmingham a thrafododd ddigwyddiadau'r dydd â'r wasg, teledu a radio lleol. Yn ddiweddarach yn y prynhawn cyfarfu'r Farwnes Hallett yn breifat â grŵp o bobl a gafodd brofedigaeth yn ystod y pandemig. 

Mae Pob Stori O Bwys, ymarfer gwrando yr Ymchwiliad, ledled y DU, yn gyfle i'r cyhoedd rannu effeithiau personol y pandemig â'r Ymchwiliad, heb y furfioldeb o roi tystiolaeth neu fynychu gwrandawiad cyhoeddus.

Bydd yn cefnogi ymchwiliadau Ymchwiliad Covid-19 y DU trwy ddarparu tystiolaeth am effaith dynol y pandemig ar boblogaeth y DU. Bydd hyn yn helpu'r Farwnes Hallett i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i bob un o'r cyhoedd a gymerodd yr amser i ymuno â ni a rhannu eu profiadau o'r pandemig.
"Mae gan bob un ohonom stori i'w hadrodd. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod cannoedd o filoedd o bobl wedi colli anwyliaid, ac aeth llawer rhagor yn sâl neu gwnaethant ddioddef caledi neu ynysiad. Hyd yn oed os ydych yn teimlo nad oes gennych stori i'w hadrodd, rydymwir eisiau clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud. Effeithiodd y pandemig ar bob un ohonom ac mae eich stori o bwys gwirioneddol.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Ymchwiliad, Ben Connah

Rhagor o wybodaeth

Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi rhagor o ddigwyddiadau Mae Pob Stori O Bwys dros y misoedd sydd i ddod. Bydd tîm yr Ymchwiliad yn gweithio gyda'r darparwr digwyddiadau Identity i gyflawni digwyddiadau Mae Pob Stori O Bwys mewn person ledled y DU. Yn dilyn ymarfer caffael cystadleuol, mae Identity wedi cael ei benodi i gyflawni digwyddiadau o dan gontract gwerth £600,000. Bydd y igwyddiadau hyn yn darparu cyfle i bobl ddeall rhagor am Mae Pob Stori O Bwys neu rannu eu profiadau o'r pandemig yn bersonol a staff yr Ymchwiliad pe byddent yn dymuno gwneud hynny. 

Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn parhau â'i waith ag ymchwilwyr arbenigol i wrando ar a chipio profiadau pobl yn uniongyrchol ar ei ran. Yn dilyn caffael cystadleuol cafodd contract gwerth £6.5m ei ddyfarnu i Ipsos wedi'i ddarparu dros dair blynedd i gynorthwyo'r Ymchwiliad i ddadansoddi'r storïau mae'r cyhoedd yn eu rhannu, gan droi'r themâu a mewnwelediadau yn adroddiadau fydd yn dangos effaith ddynol y pandemig ac a fydd yn cael eu cyflwyno i broses gyfreithiol yr Ymchwiliad fel tystiolaeth.