Mae’r Farwnes Hallett yn galw ar bobl i rannu eu profiadau o'r pandemig i helpu Ymchwiliad Covid-19 y DU

  • Cyhoeddwyd: 8 Mehefin 2023
  • Pynciau: Mae Pob Stori o Bwys

Heddiw, mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi lansio Every Story Matters, cyfle i bawb ledled y wlad rannu eu profiad o’r pandemig yn uniongyrchol â’r Ymchwiliad.

Effeithiodd y pandemig ar bob person yn y DU ac, mewn llawer o achosion, mae’n parhau i gael effaith barhaol ar fywydau. Ond mae pob profiad yn unigryw.
Trwy rannu’r effaith bersonol a gafodd y pandemig arnoch chi, eich bywyd a’ch anwyliaid, gallwch fy helpu i a thîm cyfreithiol yr Ymchwiliad i lunio fy argymhellion fel bod y DU wedi’i pharatoi’n well yn y dyfodol.
Roedd maint y pandemig yn ddigynsail, ond nid yw stori neb yr un peth â’ch un chi, felly helpwch fi i ddeall y darlun llawn trwy rannu eich stori. Bydd pob stori unigol o bwys.

Dywedodd y Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd yr Ymchwiliad

Bydd Every Story Matters yn cefnogi ymchwiliadau Ymchwiliad Covid-19 y DU ac yn helpu Cadeirydd yr Ymchwiliad i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol, trwy ddarparu tystiolaeth am effaith ddynol y pandemig ar boblogaeth y DU. Mae'n rhoi cyfle i'r rhai y mae'r pandemig yn effeithio arnynt i rannu eu profiadau heb y ffurfioldeb o roi tystiolaeth neu fynychu gwrandawiad cyhoeddus.

Gan gymryd rhan yn Every Story Matters, mae grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru wedi cael cyfle i gyfleu eu colledion, eu profiadau personol a’u pryderon i’r ymchwiliad.
Trwy wneud hynny, ein gobaith yw y bydd y rhyngweithiadau hyn o gymorth i Gadeirydd yr ymchwiliad, i gael gwybodaeth ehangach am effaith Covid-19 ar gymunedau Cymru, ac yn y pen draw yn dylanwadu ar ei hargymhellion terfynol.”

Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees, o grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru

Bydd pob stori a rennir yn ddienw ac yna'n cyfrannu at adroddiadau thema pwysig. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyflwyno i bob ymchwiliad perthnasol fel tystiolaeth. Byddant yn cael eu defnyddio i nodi tueddiadau ledled y wlad, yn ogystal â phrofiadau penodol, a fydd yn cyfrannu at ymchwiliadau a chanfyddiadau’r Ymchwiliad. Bydd Every Story Matters yn parhau ar agor drwy gydol oes yr Ymchwiliad a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno fel tystiolaeth i sicrhau bod pob stori yn bwysig.

Hoffai’r Ymchwiliad i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn Every Story Matters, gan ymuno â bron i 6,000 o bobl sydd eisoes wedi rhannu eu straeon. Mae’r Ymchwiliad yn gweithio gyda dros 40 o sefydliadau i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys Age UK, Marie Curie, Shelter a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, i sicrhau bod y profiadau a rennir yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU.

Rwy’n teimlo y dylai pobl ag anabledd dysgu gymryd rhan yn Every Story Matters, oherwydd mae’n bwysig eu bod yn rhannu eu profiadau a sut yr effeithiodd y pandemig arnynt. Mae Every Story Matters yn gyfle i’w lleisiau gael eu clywed, cafodd pawb eu heffeithio gan y pandemig ond roedd pobl sydd ag anabledd dysgu 6 gwaith yn fwy tebygol o farw na’r cyhoedd yn gyffredinol ac ni chlywyd eu lleisiau cymaint ag y dylent fod wedi cael.
Mae Every Story Matters yn ffordd i’r bobl hynny o gymunedau fel ein un ni gael eu clywed gan yr ymchwiliad a gobeithio dod â newidiadau fel nad yw hyn yn digwydd eto y tro nesaf. Fel person sydd ag anabledd dysgu, roedd yn anodd i mi weld pobl oherwydd y cyfyngiadau symud ac roedd mwy o rwystrau yn fy ffordd i, fel hygyrchedd cyfathrebiadau.
Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag anabledd dysgu yn cymryd rhan yn Every Story Matters fel bod ein lleisiau’n cael eu clywed gan yr ymchwiliad. Mae Mencap wedi bod yn gweithio gyda’r ymchwiliad i wneud Every Story Matters mor hygyrch â phosibl ac rydym wedi cael pleser o weithio gyda thîm yr ymchwiliad gan eu bod wedi bod yn dda am wrando arnom a’r hyn sydd ei angen ar bobl ag anableddau dysgu i gymryd rhan yn Every Story Matters.

Dywedodd Vijay Patel, swyddog ymgyrchoedd Mencap

Roedd y pandemig yn gyfnod anodd i bawb, ond i lawer o bobl hŷn a’u teuluoedd a’u ffrindiau roedd yn arbennig o heriol, ac yn aml yn newid bywyd yn fawr. Rydym yn gwybod bod edrych yn ôl i’r cyfnod tywyll hwn yn peri straen annioddefol i rai pobl, ond mae eraill sydd eisiau ac angen cyfle i egluro beth ddigwyddodd iddyn nhw a’u hanwyliaid. Iddyn nhw, mae’r cyfle hwnnw nawr wedi cyrraedd ar ffurf Every Story Matters a gobeithiwn y byddant yn ei gymryd, ac y bydd yn eu helpu ar eu taith tuag at ddod i delerau â’u profiadau pandemig.
Bydd cymryd rhan yn yr ymarfer gwrando hwn hefyd yn helpu tîm yr ymchwiliad, dan arweiniad y Fonesig Hallett, i gael dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn a ddigwyddodd, a pham. Yn Age UK rydym yn gefnogwyr brwd o’r syniad bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu’r gwersi cywir o’r argyfwng iechyd COVID-19, fel nad yw pobl hŷn byth eto’n cael eu gadael mor agored i fygythiad mor ofnadwy. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn “Every Story Matters” yn cefnogi’r amcan hwnnw.”

Dywedodd Caroline Abrahams, Cyfarwyddwr Elusen Age UK

Bydd profiadau bydwragedd, gweithwyr cymorth mamolaeth, bydwragedd dan hyfforddiant ac addysgwyr bydwreigiaeth yn hanfodol i gael gwell dealltwriaeth o sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu bywydau gwaith, ac yn y pen draw, gofalu am fenywod, babanod a theuluoedd. Rwy’n annog cymaint o bobl â phosibl i ymateb i’r ymarfer gwrando, oherwydd mae eich straeon yn bwysig, a bydd rhannu’r hyn yr oeddech yn byw ac yn gweithio drwyddo yn helpu i newid pethau er gwell pe baem byth yn wynebu sefyllfa debyg yn y dyfodol.”

Dywedodd Gill Walton, Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd

Mae Every Story Matters yn rhan bwysig o ymchwiliad Covid-19 gan ei fod yn hanfodol clywed gan gynifer o bobl â phosibl am eu profiadau personol.
Os ydych yn gweithio mewn hosbis, yn adnabod rhywun a gafodd ofal lliniarol neu ddiwedd oes yn ystod y pandemig, neu sydd ag anwylyn a fu farw yn ystod y pandemig, mae angen i’r ymchwiliad glywed eich profiad a deall yr effaith a gafodd arnoch chi.
Gall y straeon a rennir a’r gwersi a ddysgwyd nid yn unig ein helpu i baratoi ar gyfer unrhyw bandemig newydd yn y dyfodol, ond hefyd i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n rhoi’r hyn sydd ei angen ar bob person yn y wlad o’u munudau cyntaf yn eu bywydau hyd at eu diwedd. Fel cymdeithas, rydym yn tanfuddsoddi yn faterol ac yn emosiynol mewn gofal ar ddiwedd bywyd pobl. Fe allwn ni wneud yn well av mae'n rhaid i ni wneud hynny.”

Dywedodd Toby Porter, Prif Swyddog Gweithredol Hospice UK

Yn Kidney Care UK rydym yn annog pawb sydd â chlefyd yr arennau, yn ogystal ag aelodau eu teulu, i sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn yr Ymchwiliad trwy rannu eu profiadau fel rhan o Every Story Matters. Mae’r pandemig yn parhau i effeithio ar fywydau pobl sy’n byw â chlefyd yr arennau ac mae llawer o’r bobl rydym yn eu cefnogi wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo nad oedd neb yn eu gweld nac yn gwrando arnynt ar adegau dros y tair blynedd diwethaf.
Mae’r cyfle hwn yn golygu y gellir clywed holl leisiau’r gymuned arennau a bod gwersi i’w dysgu o’r pandemig Covid-19, fel ein bod wedi paratoi’n well ar gyfer unrhyw achosion o glefydau byd-eang yn y dyfodol.”

Dywedodd Fiona Loud, Cyfarwyddwr Polisi yn Kidney Care UK

Mae nifer o ffyrdd y gall pobl rannu eu profiadau â'r Ymchwiliad. Y brif ffordd yw trwy ffurflen ar-lein Mae Pob Stori o Bwys yr Ymchwiliad ar ei wefan. I'r rhai na allant ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i rannu eu stori, bydd amrywiaeth o ddewisiadau eraill ar gael - gan gynnwys fersiynau papur ac yn ddiweddarach eleni rhif ffôn y gall pobl ei ffonio. Bydd aelodau o dîm yr Ymchwiliad hefyd yn teithio ar draws y DU fel y gall unigolion rannu eu profiadau yn bersonol mewn digwyddiadau cymunedol.