Diweddariad ar yr ymchwiliad: Cyhoeddi ymchwiliadau newydd; Modiwl 8 'Plant a Phobl Ifanc'

  • Cyhoeddwyd: 21 Mai 2024
  • Pynciau: Modiwl 8, Modiwlau

Heddiw, mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett, wedi agor wythfed ymchwiliad yr Ymchwiliad i effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ac wedi gosod cynlluniau i agor dau ymchwiliad pellach yn 2024. 

 

Bydd yr wythfed ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc, y penderfyniadau a wnaed ac i ba raddau yr ystyriwyd plant. Effeithiodd y pandemig ar blant a phobl ifanc mewn llawer o wahanol ffyrdd; collasant anwyliaid, cyfleoedd academaidd, blynyddoedd o ddatblygiad cymdeithasol a rhyngweithio â theulu a ffrindiau.

Bydd ein prosiect ymchwil Lleisiau Plant a Phobl Ifanc yn sicrhau bod yr Ymchwiliad yn clywed gan ystod eang o’r plant a’r bobl ifanc hynny.

Mae Every Story Matters - ein hymarfer gwrando cenedlaethol - hefyd yn casglu straeon rhieni, gofalwyr, athrawon ac eraill a chwaraeodd ran mor bwysig ym mywydau plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett

Bydd Modiwl 8 yn ymchwilio i effaith y pandemig ar blant ar draws cymdeithas gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig a/neu anableddau. Bydd yn ystyried ystod amrywiol o gefndiroedd, effaith gwneud penderfyniadau ar blant a phobl ifanc a chanlyniadau hirdymor y pandemig. Mae rhagor o fanylion am y meysydd ymchwilio wedi'u cynnwys yn y cwmpas dros dro ar gyfer Modiwl 8.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cyfranogwr Craidd ar agor rhwng 21 Mai a 17 Mehefin 2024. 

Gall y Cadeirydd hefyd gadarnhau meysydd eang ymchwiliadau nesaf yr Ymchwiliad.

Bydd Modiwl 9 yn canolbwyntio ar yr ymateb economaidd i'r pandemig. Bydd yr ymchwiliad hwn yn agor ym mis Gorffennaf 2024.

Mae'r Ymchwiliad yn disgwyl cyhoeddi ymchwiliad pellach yn ddiweddarach yn yr Hydref a fydd yn archwilio ieffaith y pandemig mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth. Cyhoeddir rhagor o fanylion bryd hynny  

Mae rhestr lawn o'r pynciau y bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt i'w gweld yn ein Cylch Gorchwyl.  

Mae’r Cadeirydd yn parhau i anelu at ddod â gwrandawiadau cyhoeddus i ben yn 2026. 

Mae'r Ymchwiliad wedi'i rannu'n wahanol ymchwiliadau - neu 'Fodiwlau' - a fydd yn archwilio gwahanol rannau o barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig a'i effaith ac ymateb iddo. 

Hyd yn hyn, mae'r Ymchwiliad wedi agor saith ymchwiliad. 

Modiwl 1 (Parodrwydd a gwytnwch pandemig y DU) a Modiwl 2, 2A, 2B, a 2C (Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn y DU a gweinyddiaethau datganoledig) wedi eu cwblhau.

Er mwyn sicrhau bod argymhellion yr Ymchwiliad yn amserol, mae'r Cadeirydd wedi addo cyhoeddi adroddiadau rheolaidd. Mae'n bwriadu cyhoeddi'r adroddiad ar gyfer Modiwl 1 yr haf hwn.

Mae’r amserlen gwrandawiadau wedi’i diweddaru fel a ganlyn:

Modiwl Agorwyd ar… Wrthi'n ymchwilio… Dyddiadau
3 8 Tachwedd 2022 Effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd   Dydd Llun 9 Medi – Dydd Iau 10 Hydref 2024
Egwyl: Dydd Llun 14 Hydref – Dydd Gwener 25 Hydref 2024
Dydd Llun 28 Hydref – Dydd Iau 28 Tachwedd 2024
4 5 Mehefin 2023 Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth gwrth-feirws ledled y DU  Dydd Mawrth 14 Ionawr – Dydd Iau 30 Ionawr 2025
5 24 Hydref 2023 Caffael pandemig ar draws y DU ar draws pedair wythnos o wrandawiadau cyhoeddus Dydd Llun 3 Mawrth – Dydd Iau 3 Ebrill 2025
7 19 Mawrth 2024 Y dull o brofi, olrhain ac ynysu a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig Dydd Llun 12 Mai – Dydd Gwener 30 Mai 2025
6 12 Rhagfyr 2023 Y sector gofal ar draws y DU Haf 2025