Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y DU y cofnod cyntaf o'r hyn y mae wedi'i glywed trwy Mae Pob Stori o Bwys. Mae'r cofnod cyntaf hwn yn canolbwyntio ar brofiadau pobl o systemau gofal iechyd y DU yn ystod y pandemig. Mae'r cofnod yn cynnwys straeon wedi'u hanonymeiddio a gyflwynwyd gan gyfranwyr i helpu cynhyrchu adroddiad ar themâu, fydd yn helpu'r Cadeirydd, y Farwnes Hallett, i gyrraedd casgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Mae cofnod Mae Pob Stori o Bwys cyntaf yr Ymchwiliad yn dod â phrofiadau gofal iechyd pobl ynghyd. Mae'n ymdrin â phrofiadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion ar draws gofal sylfaenol ac ysbytai, yn ogystal â gofal brys, gofal diwedd oes, gofal mamolaeth, gwarchod, Covid Hir a mwy.
Fformatau amgen
Mae'r crynodeb 'byr' ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd a fformatau gan gynnwys Saesneg, Cymraeg, Saesneg Hawdd i'w Ddarllen a fideo (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain).
Deunyddiau Ymholiad Eraill
Mae’r cofnod hwn yn ymwneud â’r Cofnod Mae Pob Stori o Bwys ar gyfer Modiwl 4, sy’n dwyn ynghyd brofiadau pobl o frechlynnau a therapiwteg yn ystod pandemig Covid-19. Bydd cofnodion Mae Pob Stori o Bwys yn y dyfodol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar fywyd yn ystod y pandemig megis gofal cymdeithasol, cymorth ariannol a phlant a phobl ifanc.
Mae'r cofnod yn cyfeirio at niwed sylweddol a gallrhai o'r straeon a themâu a gynhwysir yn y cofnod hwn ysgogi atgofion a theimladau gofidus. Gall fod yn ddefnyddiol cymryd egwyl os yw darllen y cofnod yn peri gofid. Mae rhestr o wasanaethau cefnogol ar gael.
Fformatau amgen
Mae'r crynodeb 'byr' ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd a fformatau gan gynnwys Saesneg, Cymraeg, Saesneg Hawdd i'w Ddarllen, sain a fideo (Iaith Arwyddion Prydain).
Deunyddiau Ymholiad Eraill
Mae'r cofnod hwn yn ymwneud â'r Cofnod Mae Pob Stori'n Bwysig ar gyfer Modiwl 7, sy'n dwyn ynghyd brofiadau pobl o'r system Profi, Olrhain ac Ynysu yn ystod pandemig Covid-19. Bydd cofnodion Mae Pob Stori'n Bwysig yn y dyfodol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar fywyd yn ystod y pandemig megis gofal cymdeithasol, cymorth ariannol a phlant a phobl ifanc.
Mae'r cofnod yn cyfeirio at niwed sylweddol a gallrhai o'r straeon a themâu a gynhwysir yn y cofnod hwn ysgogi atgofion a theimladau gofidus. Gall fod yn ddefnyddiol cymryd egwyl os yw darllen y cofnod yn peri gofid. Mae rhestr o wasanaethau cefnogol ar gael.
Fformatau amgen
Mae'r crynodeb 'byr' ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd a fformatau gan gynnwys Saesneg, Cymraeg, Saesneg Hawdd i'w Ddarllen, sain a fideo (Iaith Arwyddion Prydain).
Bydd cofnodion ychwanegol o Mae Pob Stori o Bwys yn cwmpasu pynciau eraill yn seiliedig ar Fodiwlau'r Ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.