Trawsgrifiadau Ymgynghori


Cynhaliodd yr Ymchwiliad ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos ar ei Gylch Gorchwyl drafft ym mis Mawrth a mis Ebrill 2022, gan roi cyfle i bobl ddweud eu dweud ar sut y dylai'r Ymchwiliad fynd ati i wneud ei waith.

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 7 Ebrill 2022. Yn ystod yr ymgynghoriad, cyfarfu tîm yr Ymchwiliad â chynrychiolwyr o lawer o wahanol sectorau megis elusennau, undebau, grwpiau ffydd, addysg a gofal iechyd.