Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth Ei Diweddar Fawrhydi, y Frenhines Elizabeth II, mae gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf yr Ymchwiliad, a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 20 Medi, wedi’i ohirio. Bydd y gwrandawiad rhagarweiniol hwn ar gyfer Modiwl 1, a fydd yn archwilio gwytnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer y pandemig coronafeirws yn cael ei gynnal am 10am ddydd Mawrth 4 Hydref.
Yn y gwrandawiad, bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett yn cynnal cyfnod byr o dawelwch a myfyrio i goffáu’r effaith bellgyrhaeddol y mae’r pandemig wedi’i chael ar fywydau pawb. Bydd diweddariad hefyd gan Gwnsler yr Ymchwiliad ar geisiadau Cyfranogwyr Craidd, a bydd y Cadeirydd yn amlinellu cynlluniau'r Ymchwiliad ar gyfer Modiwl 1 yn fanylach.
Bydd y gwrandawiad rhagarweiniol yn cael ei ffrydio trwy gyfrif YouTube yr Ymchwiliad. Mae gwrandawiadau rhagarweiniol i gytuno ar faterion gweithdrefnol. Bydd yr Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth ar gyfer Modiwl 1 mewn gwrandawiadau cyhoeddus yn ystod gwanwyn 2023. Cyfrif YouTube (yn agor mewn tab newydd). Mae gwrandawiadau rhagarweiniol i gytuno ar faterion gweithdrefnol. Bydd yr Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth ar gyfer Modiwl 1 mewn gwrandawiadau cyhoeddus yn ystod gwanwyn 2023.
Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o'r gwrandawiad ar yr un dydd y mae'r gwrandawiad yn dod i ben. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad ar ddyddiad diweddarach.
Mae'r gwrandawiad rhagarweiniol yn agored i'r cyhoedd a bydd yn cael ei gynnal yn 13 Bishop’s Bridge Road, Llundain, W2 6BU. Bydd lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.