Heddiw, mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett, wedi agor wythfed ymchwiliad yr Ymchwiliad i effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ac wedi gosod cynlluniau i agor dau ymchwiliad pellach yn 2024.
Bydd yr wythfed ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc, y penderfyniadau a wnaed ac i ba raddau yr ystyriwyd plant. Effeithiodd y pandemig ar blant a phobl ifanc mewn llawer o wahanol ffyrdd; collasant anwyliaid, cyfleoedd academaidd, blynyddoedd o ddatblygiad cymdeithasol a rhyngweithio â theulu a ffrindiau.
Bydd ein prosiect ymchwil Lleisiau Plant a Phobl Ifanc yn sicrhau bod yr Ymchwiliad yn clywed gan ystod eang o’r plant a’r bobl ifanc hynny.
Mae Every Story Matters - ein hymarfer gwrando cenedlaethol - hefyd yn casglu straeon rhieni, gofalwyr, athrawon ac eraill a chwaraeodd ran mor bwysig ym mywydau plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bydd Modiwl 8 yn ymchwilio i effaith y pandemig ar blant ar draws cymdeithas gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig a/neu anableddau. Bydd yn ystyried ystod amrywiol o gefndiroedd, effaith gwneud penderfyniadau ar blant a phobl ifanc a chanlyniadau hirdymor y pandemig. Mae rhagor o fanylion am y meysydd ymchwilio wedi'u cynnwys yn y cwmpas dros dro ar gyfer Modiwl 8.
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cyfranogwr Craidd ar agor rhwng 21 Mai a 17 Mehefin 2024.
Gall y Cadeirydd hefyd gadarnhau meysydd eang ymchwiliadau nesaf yr Ymchwiliad.
Bydd Modiwl 9 yn canolbwyntio ar yr ymateb economaidd i'r pandemig. Bydd yr ymchwiliad hwn yn agor ym mis Gorffennaf 2024.
Mae'r Ymchwiliad yn disgwyl cyhoeddi ymchwiliad pellach yn ddiweddarach yn yr Hydref a fydd yn archwilio ieffaith y pandemig mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth. Cyhoeddir rhagor o fanylion bryd hynny
Mae rhestr lawn o'r pynciau y bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt i'w gweld yn ein Cylch Gorchwyl.
Mae’r Cadeirydd yn parhau i anelu at ddod â gwrandawiadau cyhoeddus i ben yn 2026.
Mae'r Ymchwiliad yn cael ei rannu'n archwiliadau gwahanol - neu 'Fodiwlau' - fydd yn archwilio gwahanol rannau o barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig ac ymateb iddo a'i effaith.
Hyd yn hyn, mae'r Ymchwiliad wedi agor saith ymchwiliad.
Modiwl 1 (Parodrwydd a gwytnwch pandemig y DU) a Modiwl 2, 2A, 2B, a 2C (Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn y DU a gweinyddiaethau datganoledig) wedi eu cwblhau.
Er mwyn sicrhau bod argymhellion yr Ymchwiliad yn amserol, mae'r Cadeirydd wedi addo cyhoeddi adroddiadau rheolaidd. Mae'n bwriadu cyhoeddi'r adroddiad ar gyfer Modiwl 1 yr haf hwn.
Mae amserlen y gwrandawiadau wedi'i diweddaru fel a ganlyn:
Modiwl | Agorwyd ar… | Wrthi'n ymchwilio… | Dyddiadau |
---|---|---|---|
3 | 8 Tachwedd 2022 | Effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd | Dydd Llun 9 Medi – Dydd Iau 10 Hydref 2024 Egwyl: Dydd Llun 14 Hydref – Dydd Gwener 25 Hydref 2024 Dydd Llun 28 Hydref – Dydd Iau 28 Tachwedd 2024 |
4 | 5 Mehefin 2023 | Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth gwrth-feirws ledled y DU | Dydd Mawrth 14 Ionawr – Dydd Iau 30 Ionawr 2025 |
5 | 24 Hydref 2023 | Caffael pandemig ar draws y DU ar draws pedair wythnos o wrandawiadau cyhoeddus | Dydd Llun 3 Mawrth – Dydd Iau 3 Ebrill 2025 |
7 | 19 Mawrth 2024 | Y dull o brofi, olrhain ac ynysu a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig | Dydd Llun 12 Mai – Dydd Gwener 30 Mai 2025 |
6 | 12 Rhagfyr 2023 | Y sector gofal ar draws y DU | Haf 2025 |