Heddiw, mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett, wedi gosod amserlen wedi’i diweddaru ar gyfer gwrandawiadau yn 2024.
Bydd gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer pedwerydd ymchwiliad yr Ymchwiliad, i frechlynnau a therapiwteg (Modiwl 4), yn cael eu haildrefnu.
Trefnwyd y gwrandawiadau dros dro i gael eu cynnal yn ystod haf 2024. Byddant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn awr er mwyn galluogi sefydliadau i flaenoriaethu darparu tystiolaeth ar gyfer trydydd ymchwiliad yr Ymchwiliad i effaith y pandemig ar ofal iechyd (Modiwl 3).
Gwn y bydd gohirio’r gwrandawiadau hyn yn siomedig i rai.
Rwyf am sicrhau bod ein gwrandawiadau yn 2024 mor effeithiol â phosibl ac rwy’n cydnabod y pwysau cynyddol ar sefydliadau i ymateb i geisiadau a darparu gwybodaeth i’r Ymchwiliad.
Hoffwn eich sicrhau y byddwn yn cynnal y gwrandawiadau hyn cyn gynted â phosibl ac rwy’n parhau’n ymrwymedig i beidio â chaniatáu i wrandawiadau’r Ymchwiliad redeg y tu hwnt i’m nod gwreiddiol, sef haf 2026.
Mae gwaith ar y gweill ar gyfer chwe ymchwiliad cyntaf yr Ymchwiliad, gan ystyried parodrwydd y DU, y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol craidd, yr effaith ar systemau gofal iechyd, brechlynnau a therapiwteg, caffael a'r sector gofal. Mae wedi cwblhau gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer ei ddau ymchwiliad cyntaf a gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer Modiwl 2A – sy’n archwilio’r broses o wneud penderfyniadau a llywodraethu gwleidyddol yn yr Alban – yn dechrau ddydd Mawrth 16 Ionawr.
Yn cefnogi ymchwiliadau cyfreithiol yr Ymchwiliad mae Every Story Matters, ymarfer gwrando’r Ymchwiliad ledled y DU, a fydd yn darparu tystiolaeth am effaith ddynol y pandemig ar boblogaeth y DU. Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn cyflwyno prosiect ymchwil pwrpasol ac wedi’i dargedu, gan glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt fwyaf gan y pandemig i helpu i lywio ei ymchwiliadau. Mae'r ymchwil hwn yn dechrau'n fuan.
Bydd aildrefnu gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 4 yn helpu i sicrhau bod yr Ymchwiliad yn cael datgeliad amserol o dystiolaeth ar gyfer Modiwl 3 cyn ei wrandawiadau yn yr hydref eleni.
Bydd yr Ymchwiliad yn rhoi rhagor o fanylion am ddyddiadau gwrandawiadau cyhoeddus a aildrefnwyd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Ni fydd gwrandawiad rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 4 ar 8 Chwefror. Bydd yr ail wrandawiad rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 4 yn cael ei gynnal ar 22 Mai 2024 yng Nghanolfan Gwrandawiad yr Ymchwiliad yn Dorland House yn Llundain.