Bydd yr Ymholiad yn cynnal y gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ei ymchwiliad i frechlynnau a therapiwteg (Modiwl 4), ar ddydd Mercher 13 Medi.
Bydd ail wrandawiad rhagarweiniol ar gyfer ymchwiliad yr Ymholiad i effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd (modiwl 3) yn digwydd ar 27 Medi.
Bydd y gwrandawiadau'n digwydd yng Nghanolfan Wrandawiadau'r Ymchwiliad, Dorland House, Llundain, W2 6BU (map) ac mae'r ddau yn cychwyn am 10:30am.
Mewn gwrandawiadau rhagarweiniol, mae Cadeirydd yr Ymchwiliad yn gwneud penderfyniadau am sut y bydd ymchwiliadau'n rhedeg. Nid yw'r Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth yn y gwrandawiadau hyn. Bydd cyflwyniadau gan y Cwnsler i'r Ymchwiliad a Chyfranogwyr Craidd i helpu paratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus, lle clywir tystiolaeth
Bydd y pedwerydd ymchwiliad yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â datblygu brechlynnau Covid-19 a gweithredu’r rhaglen gyflwyno brechlynnau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r trydydd ymchwiliad yn edrych ar yr effaith y cafodd y pandemig ar systemau gofal iechyd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd ym mhedair cenedl y DU.
Mae rhagor o fanylion wedi'u cynnwys yn y cwmpas amodol ar gyfer Modiwlau 3 a 4, a gyhoeddir ar wefan yr Ymholiad..
Gallwch wylio'r gwrandawiadau rhagarweiniol ar sianel YouTube yr Ymholiad,yn amodol ar oedi o dri munud.
Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o bob gwrandawiad ar yr un diwrnod ag y daw i ben. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymholiad ar ddyddiad diweddarach. Mae ffurfiau amgen, gan gynnwys cyfieithiad iaith Gymraeg, ar gael ar gais.