Heddiw (dydd Mawrth 14 Ionawr 2025) mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi ei ail gofnod Mae Pob Stori o Bwys sy’n crynhoi profiadau cyhoedd y DU o frechlynnau a therapiwteg Covid-19 yn ystod y pandemig.
Mae degau o filoedd o gyfranwyr wedi rhannu eu straeon ag Ymchwiliad Covid-19 y DU, sy’n ffurfio cofnodion â thema i helpu llywio ei ymchwiliadau.
Cyhoeddir y cofnod diweddaraf ar ddiwrnod agoriadol tair wythnos o wrandawiadau cyhoeddus ar gyfer pedwerydd ymchwiliad yr Ymchwiliad: Modiwl 4 ‘Brechlynnau a Therapiwteg’. Mae'r Ymchwiliad yn ymchwilio i ddatblygiad brechlynnau Covid-19 a gweithrediad y rhaglen gyflwyno brechlynnau ledled Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â materion sy'n ymwneud â thrin Covid-19 trwy feddyginiaethau presennol a newydd.
Mae cofnodion Mae Pob Stori o Bwys yn cynorthwyo’r Cadeirydd, y Farwnes Heather Hallett, i ddod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddwyd cofnod cyntaf o Mae Pob Stori o Bwys, ‘Gofal Iechyd’, ddechrau mis Medi 2024.
Mae ail cofnod Mae Pob Stori o Bwys yr Ymchwiliad yn dod â phrofiadau brechu a therapiwteg cyfranwyr at ei gilydd. Mae’r cofnodsef cynnyrch yr ymarfer ymgysylltu cyhoeddus mwyaf a gynhaliwyd erioed gan ymchwiliad cyhoeddus yn y DU, yn nodi ystod eang o brofiadau o’r pandemig gan gynnwys:
- pobl a oedd yn teimlo rhyddhad aruthrol bod brechlyn, wedi'i gynhyrchu a'i ddosbarthu yn ystod y pandemig, sy'n golygu y gallai bywyd ddychwelyd i 'normal' o bosibl
- y rhai sy’n parhau i bryderu ynghylch pa mor gyflym y cafodd ei ddatblygu ac sy’n dal i fod yn ofalus, neu hyd yn oed yn amheus, ynghylch ei fanteision yn erbyn ei risgiau
- y rhai a deimlai nad oeddent wedi cael llawer o ddewis yn ystod y pandemig ynghylch a ddylid cymryd y brechlyn neu beidio a phwysau canfyddedig cymdeithasol neu waith i geisio brechlyn
- cyfranwyr sy'n dal i deimlo'n falch eu bod wedi dewis peidio â chymryd brechlyn tra bo eraill yn dathlu eu bod wedi gwneud hynny
- unigolion a brofodd ganlyniadau negyddol gan frechlynnau Covid gan gynnwys anaf gwanychol, neu sgîl-effeithiau sylweddol, y mae rhai ohonynt yn parhau
- pobl a deimlai nad oedd eu pryderon wedi cael sylw priodol gan arbenigwyr na'r proffesiwn meddygol
- y rhai a fynegodd y farn na fu, ac nad oedd o hyd, digon o wybodaeth am frechlynnau ac unrhyw sgil-effeithiau posibl, a gadawodd y gwagle hwn o wybodaeth le ar gyfer sïon, damcaniaethau cynllwynio a phryderon parhaus
Mae Pob Stori o Bwys yn rhan hanfodol o’r Ymchwiliad. Mae ei gofnodion yn sicrhau bod ein holl waith, a chasgliadau terfynol y Cadeirydd, yn cael eu llywio gan brofiadau bywyd go iawn pobl. Rydym bob amser wedi addo ei fod yn ymchwiliad cyhoeddus i’r DU gyfan – mae bron i 9,500 o sgyrsiau yn ein 22 o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled y wlad yn dyst i hynny, fel y mae’r 53,000 o straeon a gyflwynwyd drwy wefan Mae Pob Stori o Bwys.
Mae gwerth Mae Pob Stori o Bwys yn ymwneud â dal themâu’r holl brofiadau a rannwyd â ni, gan ddyfynnu straeon pobl yn eu geiriau eu hunain ac, yn hollbwysig, mewn sicrhau bod profiadau pobl yn rhan o gofnod cyhoeddus yr Ymchwiliad.
Bydd cofnodion y dyfodol o Mae Pob Stori o Bwys yn canolbwyntio ar y system ofal, gwaith, bywyd teuluol ac agweddau eraill ar fywyd yn ystod y pandemig. Byddwn yn annog pawb sydd â stori i'w rhannu â ni. I ddarganfod mwy ewch everystorymatters.co.uk.
Hoffai’r Ymchwiliad gyfleu ei ddiolchgarwch dwysaf i bawb sy’n parhau i rannu eu profiadau amhrisiadwy gyda ni.
Mae’r cofnod diweddaraf o Mae Pob Stori o Bwys yn gynnyrch bron 34,500 o straeon pobl a gyflwynwyd ar-lein i’r Ymchwiliad. Mae hefyd yn adlewyrchu’r themâu a ddaeth i’r amlwg o 228 o gyfweliadau ymchwil manwl, tra bo ymchwilwyr yr Ymchwiliad hefyd wedi tynnu ynghyd themâu o ddigwyddiadau gwrando Mae Pob Stori o Bwys gyda’r cyhoedd mewn trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig. Hyd yn hyn, mae’r Ymchwiliad wedi siarad â bron i 9,500 o aelodau’r cyhoedd mewn 22 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd mewn lleoliadau o Landudno i Luton, Oban i Gaerwysg ac Enniskillen i Folkestone, gyda llawer o bobl yn aml yn rhannu atgofion teimladwy a phersonol iawn o’r pandemig. Mae rhagor o ddigwyddiadau cyhoeddus Mae Pob Stori o Bwys wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf.
Mae cofnod newydd Mae Pob Stori o Bwys yn adrodd sut y croesawodd rhai pobl ddatblygiad cyflym a chyflwyniad brechlynnau Covid-19, tra i eraill, roedd y cyflymder yn creu teimladau o anesmwythder:
Pan gadarnhawyd bod y brechlyn ar gael, y peth cyntaf roeddwn i’n teimlo oedd, yn bersonol, fe ddaeth â gobaith i mi, oherwydd roeddwn i mewn sefyllfa anobeithiol bryd hynny, a dyna pam roeddwn i am fod yn gyntaf ar y rhestr. Roedd yn teimlo fel bod golau ar ddiwedd y twnnel, roedd hynny’n gysurol iawn.
Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y cyflymder y daeth allan wedi gadael ychydig o dawedogrwydd ymhlith rhai pobl. Fe’i cyflwynwyd yn gyflym iawn, lle mae brechlynnau eraill wedi cymryd blynyddoedd i gyrraedd y farchnad. Felly yn naturiol roedd ychydig o ofn cyffredinol dwi’n meddwl.
Mae llawer o bobl yn adrodd sut y dysgon nhw am ddatblygiad neu gyflwyniad brechlynnau mewn gwahanol ffyrdd, gyda diffyg cysondeb negeseuon yn achosi dryswch neu bryder:
“Rwy’n cofio mynd am fy mrechlyn Covid cyntaf, cael taflen wedi’i rhoi i mi, a meddwl, ‘dyma’r tro cyntaf i mi weld rhywfaint o’r wybodaeth hon, a dweud y gwir dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi cael amser i ddeall yn llawn beth mae hyn yn ei olygu, ac mae’n rhaid i mi fynd i gael fy mhigiad mewn eiliad’. Yr wybodaeth gywir, roedd yn teimlo fel bod honno wedi dod yn rhy hwyr.”
“Roedd llawer o wybodaeth yn dod o wahanol leoedd. Doeddwn i ddim wir yn ymddiried yn unrhyw beth a oedd yn y cyfryngau, ond fy nghymuned ffydd, roedd diweddariadau gan fy nghymuned ffydd ynghylch y brechlyn. Roeddent wedi gwneud llawer o ymchwil iddo. Ac roeddwn i'n ymddiried yn hynny.”
Mae rhai gweithwyr rheng flaen wedi dweud wrth Mae Pob Stori o Bwys am eu profiadau o gael mynediad at frechiadau:
“Roedd fy staff yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio pan nad oeddent yn gymwys i gael y brechlyn i ddechrau.”
“Fel gofalwyr, pam na chawsom ni ein brechu ar yr un pryd â’r bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw?”
Roeddwn i’n teimlo dan bwysau i fod yn onest. Ni chefais lythyr na neges destun. Cefais alwad ffôn gan un o fy rheolwyr, dwi'n meddwl. Dim ond pwysau ydoedd. Nid yw’n deimlad neis i’w gael – a dydw i ddim yn meddwl y byddech chi’n gweld hynny mewn llawer o achosion pan mae’n ymwneud â’ch iechyd yn gyffredinol, oherwydd mai chi sy’n gwneud y penderfyniadau hynny ar eich pen eich hun, ynte? Fel arfer nid oes gennych unrhyw un arall yn gynwysedig.
Mae cyfranwyr Mae Pob Stori o Bwys yn cofio eu profiadau o’r rhaglen frechu torfol a gyflwynwyd ledled Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon:
“Pan gyrhaeddais y ganolfan roedd y cyfan wedi'i drefnu'n dda iawn ac roedd y gwirfoddolwyr a'r staff, y nyrsys, y meddygon, i gyd mor gymwynasgar a siriol a oedd yn dda iawn. Doedd dim ymdeimlad o anobaith mewn gwirionedd. Roedd hi fel, rydych chi i gyd yma ar gyfer y brechiad hwn a byddwn yn bwrw ymlaen ag ef.”
Pan ddaeth yr amser i ddechrau cael ein brechu, fe wnaethom ddarganfod bod ein pentref bach, ynysig yn chwarae yn ein herbyn, byddai'n rhaid i ni gymryd teithiau bws hir neu fysiau lluosog i gyrraedd y ganolfan frechu, gan ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl.
Roedd y broses apwyntiad brechlyn yn gwbl anhygyrch i ddarllenwyr sgrîn gan ei fod yn defnyddio map ar gyfer un broses a chalendr ar gyfer un arall.
Roedd rhai cyfranwyr Mae Pob Stori o Bwys oedd yn agored i niwed yn glinigol yn ymwybodol o’r opsiynau therapiwtig oedd ar gael, ond cymysg oedd y profiadau o gael mynediad at therapiwteg:
Mae angen i ni edrych nawr ar yr anhrefn llwyr o amgylch pobl sy'n agored i niwed yn glinigol sy'n ceisio cael mynediad at driniaethau gwrthfirysol pan fyddant yn dal Covid. Mae straeon arswyd llwyr o fewn y grŵp hwn o gael gwybod wrth ddal y firws bod angen cysylltu â’u meddyg teulu, sy’n gwybod dim, GIG 111, sy’n gofyn iddynt wedyn ffonio’r meddyg teulu, neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys gyda chleifion a staff meddygol ddim yn gwisgo mygydau.
Mewn rhai achosion, siaradodd cyfranwyr am brofi adweithiau niweidiol i frechlynnau:
Roedd canlyniad fy anaf brechlyn yn gorfforol yn bennaf, â symptomau gwanychol a adawodd i mi fethu â gweithio am gyfnod estynedig. Nid yn unig roedd hyn yn effeithio ar fy lles ond hefyd wedi cael effaith ariannol sylweddol oherwydd fy mod wedi colli fy swydd a bod diffyg cymorth wedi bod yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.
Rwyf wedi dioddef llawer nid yn unig yn gorfforol o’r digwyddiad niweidiol hwn, ond hefyd yn feddyliol. Mae stigma enfawr gydag anafiadau trwy frechlyn sy'n annheg iawn i'r rhai yr effeithir arnynt. Does neb eisiau clywed amdano, mae rhai yn ceisio dod o hyd i unrhyw reswm arall y gallant i egluro fy salwch.
Mae Pob Stori o Bwys yn gweithio gyda nifer o grwpiau a sefydliadau. Mae tîm Mae Pob Stori o Bwys yn yr Ymchwiliad yn eithriadol o ddiolchgar a hoffent gydnabod y canlynol am eu cyfraniad amhrisiadwy i’r cofnod newydd. Maen nhw'n cynnwys:
- Age UK
- Bereaved Families for Justice Cymru
- Clinically Vulnerable Families
- Covid19FamiliesUK
- Disability Action Northern Ireland
- Khidmat Centres Bradford / Young in Covid
- Mencap
- Cyngor Menywod Moslemaidd
- Cynghrair Hil Cymru
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd
- Coleg Brenhinol y Nyrsys
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB)
- Scottish Covid Bereaved
- Scottish Vaccine Injury Group
- Self-Directed Support Scotland
- Sewing2gether All Nations (grŵp cymorth i ffoaduriaid)
- SignHealth
- UKCVFamily
- Fforymau y Rhai mewn Profedigaeth, Plant a Phobl Ifanc, Cydraddoldebau, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a grŵp Cynghori Covid Hir