Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU heddiw (Dydd Llun 24 Tachwedd 2025) wedi cyhoeddi ei gofnod Mae Pob Stori o Bwys ar gyfer Modiwl 9, sy'n archwilio ymateb economaidd y llywodraeth i'r pandemig Covid-19 (cwmpas Modiwl 9).Cwmpas Modiwl 9).
Mae'r record ddiweddaraf Mae'r cofnod diweddaraf hwn yn cael ei gyhoeddi ar ddiwrnod agoriadol y gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer archwiliad olaf ond un yr Ymchwiliad: 'Ymateb Economaidd' (Modiwl 9). Mae'r archwiliad yn cwmpasu'r cymorth economaidd a ddarparwyd yn ystod y pandemig i fusnesau, swyddi, yr hunangyflogedig, pobl sy'n agored i niwed, a'r rheini ar fudd-daliadau ac effeithiolrwydd y cymorth hwn. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried cyllid ychwanegol a roddwyd i wasanaethau cyhoeddus perthnasol a'r sectorau gwirfoddol a chymunedol.
Gelwir ar dystion a wnaeth benderfyniadau economaidd allweddol gan gynnwys cyn-weinidogion Llywodraeth, gweision sifil blaenllaw, arbenigwyr polisi economaidd a chynrychiolwyr o Fanc Lloegr i roi tystiolaeth.
Y pedair wythnos nesaf o wrandawiadau cyhoeddus yw wythnosau olaf tystiolaeth 2025. Eleni mae'r Ymchwiliad wedi clywed eisoes gan 224 o dystion ar draws 19 wythnos flaenorol o wrandawiadau oedd yn cwmpasu pump archwiliad gwahanol. Trefnir tair wythnos olaf gwrandawiadau'r Ymchwiliad ar gyfer 2026, gan ymchwilio i 'Effaith ar Gymdeithas' (Modiwl 10) ac mae'n digwydd o 16 Chwefror hyd 5 Mawrth 2026.
Mae Pob Stori o Bwys yw'r ymarfer ymgysylltu cyhoeddus mwyaf a gynhaliwyd erioed gan ymchwiliad cyhoeddus yn y DU. Rhoddodd y cyfle i bobl rannu eu storïau ag Ymchwiliad Covid-19 y DU i helpu ffurfio ei ganfyddiadau a'i argymhellion. O'r 58,000 o storïau a rannwyd trwy Mae Pob Stori o Bwys, mae'r cofnod diweddaraf hwn yn tynnu ar dros 8,000 o storïau, gan gynnwys mewnwelediadau o 25 ddigwyddiadau cyhoeddus a gynhaliwyd ledled y DU a 273 o gyfweliadau ymchwil lle disgrifiodd pobl eu profiadau neu brofiad eu sefydliadau o gymorth economaidd yn ystod y pandemig.
Mae'r cofnod yn datgelu i rai, y teimlai cymorth yn anhygyrch, fel petaent yn cael eu trosglwyddo "o bared i bost". Teimlai eraill fod y mesurau a roddwyd ar waith wedi "achub" eu gyrfaoedd ac iddynt gynnig tawelwch meddwl yn ystod cyfnod o straen eithriadol ac ansicr iawn. Mae'r cofnod yn amlinellu amrediad eang o brofiadau didwyll gan gynnwys:
- Teimladau dwys ac weithiau estynedig o sioc, gorbryder ac ansicrwydd am waith a chyllid ar ddechrau'r pandemig, oherwydd busnesau a sefydliadau yn cau ar rybudd byr iawn a achosodd darfu ar incwm ar unwaith.
- Caledi ariannol i'r rheini ar Gredyd Cynhwysol ond hefyd y rheini oedd yn ariannol gysurus cyn y pandemig a gwelsant eu hincwm yn gostwng yn sylweddol oherwydd cymorth annigonol. Cafodd unigolion eraill drafferth i fforddio hanfodion a gwnaethant ddibynnu ar fanciau bwyd, elusennau, gan gymryd dyled neu ddefnyddio cynilion personol.
- Heriau a wynebwyd gan berchenogion busnesau roedd gofyn iddynt addasu'n gyflym i weithio o bell. Wynebodd y rheini nad oedd yn gallu addasu y posibilrwydd o golledion ariannol sylweddol, y doll emosiynol o orfod diswyddo staff neu orfod cae eu busnes yn llwyr.
- Oediadau mewn derbyn cymorth ariannol neu anawsterau mewn cyrchu cymorth o gwbl, yn enwedig i'r hunangyflogedig neu'r rheini ar gytundebau dim oriau. Achosodd hyn straen ariannol, gan gynyddu straen a gorbryder i'r rheini oedd yn aros am gymorth, yn enwedig pan nad oedd gan gyfranwyr incwm tra'u bod yn aros i weld os oeddent yn gymwys.
- Storïau cadarnhaol o gymorth economaidd yn lleddfu gorbryder ac mewn rhai achosion yn rhoi'r cyfle i bobl addasu ac uwchsgilio.
- Effeithiau economaidd tymor hirach, gan gynnwys oriau gostyngol, colledion swyddi a marchnad swyddi gystadleuol. Arweiniodd hyn at ddiweithdra estynedig a chaledi ariannol dwys i lawer.
- Cafodd llawer o bobl iau oedd yn gadael addysg llawn amser hi'n anodd i ganfod gwaith, gan amlygu y cafodd hyn effeithiau tymor hir ar ragolygon eu gyrfaoedd.
Heddiw mae'r Ymchwiliad yn cychwyn pedair wythnos o wrandawiadau sy'n ymchwilio i effeithiolrwydd cymorth economaidd a roddwyd ar waith trwy gydol y pandemig.
Mae'r storïau yn y cofnod Mae Pob Stori o Bwys hwn yn dangos y dibynnodd llawer o unigolion a busnesau yn drwm ar y cymorth economaidd a ddarparwyd yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae'r cofnod hefyd yn amlygu rhai o'r heriau a wynebwyd gan unigolion, gan gynnwys pobl oedd yn hunangyflogedig, cyflogwyr, gweithwyr a pherchnogion busnes yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhai yn dal i deimlo'r effaith economaidd ac emosiynol heddiw.
Hoffwn i ddioch i bob un o'r degau o filoedd o bobl a rannodd eu storïau â Mae Pob Stori o Bwys. Bydd eu cyfraniadau yn helpu'r DU i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Ar 23 Mai 2025, daeth Mae Pob Stori o Bwys i ben wrth i'r Ymchwiliad gyrraedd diwedd y cyfnod hanfodol hwn o gasglu storïau i lywio ymchwiliadau'r Cadeirydd. Mae cofnodion Mae Pob Stori o Bwys wedi cael eu defnyddio eisoes mewn gwrandawiadau ochr yn ochr â thystiolaeth tystion ac adroddiadau arbenigwyr a byddant yn parhau i gael eu defnyddio hyd ddiwedd yr Ymchwiliad.
Mae cofnodion Mae Pob Stori o Bwys yn helpu'r Cadeirydd, y Farwnes Hallett, i ddod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae'r pedwar cofnod arall wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn: ‘Systemau Gofal Iechyd’ (Medi 2024), ‘Brechlynnau a Therapiwteg‘ (Ionawr 2025), ‘Profi, Olrhain ac Ynysu‘ (Mai 2025), ‘Sector Gofal‘ (Mehefin 2025) a ‘Plant a Phobl Ifanc’ (Medi 2025).
Hyd yn hyn mae'r Ymchwiliad wedi cyhoeddi dau o'i adroddiadau, Modiwl 1 yn cwmpasu 'Cydnerthedd a Pharadrwydd' a Modiwl 2 yn cwmpasu 'Gwneud Penderfyniadau Craidd a Llywodraethiant Gwleidyddol y DU' a gafodd ei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2025.
Yng nghofnod diweddaraf Mae Pob Stori o Bwys, mae unigolion a pherchenogion busnesau yn disgrifio eu rhyngweithiadau â chymorth economaidd a ddarparwyd yn ystod y pandemig, gan gynnwys safbwyntiau ar yr hyn a weithiodd yn dda a pha gymorth y teimlent oedd yn ddiffygiol:
Dywedodd rhai pobl wrthym am y sioc economaidd y gwnaethant ei brofi ar ddechrau'r pandemig.
"Doedd gen i ddim byd yn llythrennol. Dim incwm o gwbl. Cyn gynted ag y cawsom ein cloi i mewn neu o dan gyfyngiadau symud, pa ffordd bynnag y disgrifiwch hyn, stopiodd fy incwm y diwrnod hwnnw, yn llythrennol. Cafodd yr holl ddarnau o waith roeddwn wedi eu neilltuo yn flaenorol eu canslo yn llythrennol gan fy nghwsmeriaid... Yn sydyn doedd gen i ddim incwm, ond yr un biliau."
Roedd llawer o bobl wedi eu drysu gan y cymorth economaidd ar gael a'i chanfod hi'n anodd i wybod pa gymorth, os o gwbl, roedden nhw'n gymwys ar ei gyfer.
"Dw i'n cofio gweld rhai cronfeydd a meddwl, 'Pam nad ydyn ni'n gymwys ar gyfer honno?' Dim ond oherwydd bod gennym arian wrth gefn, ac mewn gwirionedd rydyn ni wedi gwneud ymdrech i sicrhau bod gennym arian wrth gefn a'r holl fathau hynny o bethau ...Teimlai rhai staff yn gryf iawn am y grantiau argyfwng, y dylen ni fod wedi eu cael."
I rai, rhoddodd y cymorth economaidd a ddarparwyd yn ystod y pandemig gyfle iddynt gamu yn ôl ac ailwerthuso eu strategaeth fusnes.
"Rhoddodd y cyfle i mi arafu a gwneud rhywfaint o gynllunio ac mi wnes i adnewyddiadau i fy stiwdio mewn gwirionedd. Roeddwn i'n gallu cael y Benthyciad Bownsio yn Ôl. Roedd yn rhywbeth na allwn i fyth fod wedi gallu ei wneud tra bu rhaid i mi agor bob wythnos yn ystod ffilmio ... felly, roedd yn effaith eitha cadarnhaol mewn gwirionedd."
Teimlai rhai pobl eu bod 'wedi llithro trwy graciau' y cymorth oedd ar gael, gan achosi llawer o straen iddynt.
"Dw i'n meddwl y cafodd unrhyw un oedd yn hunangyflogedig, am gyfnod ei adael i ymdopi ar ei ben ei hun yn hollol.
Siaradodd llawer am ba mor ddiolchgar oeddent am y cynllun ffyrlo, a sut y rhoddodd hyn dawelwch meddwl iddynt mewn cyfnod ansicr iawn.
"Cefais i argraff eithriadol o dda o'r ffordd y cyflwynodd ein llywodraeth y cynllun ffyrlo yn gyflym er mwyn i ni beidio â chael panig am sut y byddem yn goroesi yn ariannol."
Rhannodd y rheini oedd yn ddi-waith sut y cawsant drafferth i gael dau ben llinyn ynghyd.
"Pan gollais i fy ffynhonnell incwm, doeddwn i ddim yn gallu talu fy rhent â Chredyd Cynhwysol yn unig ... Felly roedd rhaid i ni ddibynnu ar fanciau bwyd i oroesi, ac adeiladais i ddyledion rhent sydd erioed wedi digwydd o'r blaen yn y 12 mlynedd roeddwn i wedi bod yn rhentu'n breifat."
Cymorth sydd ar gael
Mae'r Ymchwiliad yn cydnabod y gall rhywfaint o'r cynnwys yn y cofnod a'r dyfyniadau uchod fod yn peri a chymell trallod i rai pobl. Os yw'r cynnwys hwn yn effeithio arnoch chi, gwyddoch fod gwasanaethau cymorth ar gael trwy wefan yr Ymchwiliad. Gwefan ymholiadau.