Mae Pob Stori o Bwys: Gofal Iechyd - Yn Gryno

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sy’n archwilio’r ymateb i’r pandemig Covid-19, a’i effaith, er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Mae gwaith yr Ymchwiliad wedi ei rannu'n archwiliaid ar wahân, a adnabyddir fel modiwlau. Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol, â'i wrandawiadau cyhoeddus ei hun lle mae'r Cadeirydd yn gwrando ar dystiolaeth. Yn dilyn y gwrandawiadau, mae adroddiad y modiwl yn cael ei gyhoeddi, sy'n cynnwys canfyddiadau o’r dystiolaeth a gasglwyd ar draws pob modiwl ac argymhellion y Cadeirydd ar gyfer y dyfodol.

Sut mae Mae Pob Stori o Bwys yn ffitio i mewn i waith yr Ymchwiliad

Mae'r Ymchwiliad yn awyddus i ddeall y darlun llawn o sut yr effeithiodd y pandemig ar fywydau a chymunedau ledled y DU. Mae Pob Stori o Bwys i bawb rannu eu profiad o'r pandemig yn uniongyrchol ag Ymchwiliad Covid-19 y DU.

Bydd pob stori a rennir â ni yn cael ei hanonymeiddio, ei dadansoddi a'i dwyn ynghyd i Gofnodion Mae Pob Stori o Bwys ar themâu. Mae'r Cofnodion hyn yn cael eu cofnodi i dystiolaeth ar gyfer y modiwl perthnasol ac maen nhw'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan cyn gynted â'u bod wedi cael eu cyflwyno i'r gwrandawiad perthnasol.

Mae'r crynodeb hwn yn ymwneud â Chofnod Mae Pob Stori o Bwys ar gyfer Modiwl 3, sy'n canolbwyntio ar effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd ym mhedair cenedl y DU.

Mae'r crynodeb yn cynnwys deunydd heriol ac mae'n cyfeirio at farwolaeth, marw, a niwed sylweddol felly gofalwch am eich llesiant a chymerwch ofal wrth ei ddarllen. Mae rhestr o wasanaethau cynorthwyol yn cael ei chyhoeddi ar wefan Ymchwiliad Covid-19 y DU.

Cyflwyniad

Mae Cofnod Mae Pob Stori o Bwys yn dwyn profiadau pobl ynghyd a rennir â ni:

  • ar-lein yn maepobstoriobwys.co.uk,
  • yn y cnawd mewn digwyddiadau galw heibio mewn trefi a dinasoedd ledled y DU a
  • thrwy ymchwil wedi ei dargedu gyda grwpiau penodol o bobl.

Nid yw'n cynrychioli profiad poblogaeth gyfan y DU ond yn hytrach pobl sydd wedi dewis rhannu eu stori â ni. Bydd Cofnodion Mae Pob Stori o Bwys yn y dyfodol yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o fywyd yn ystod y pandemig megis gofal cymdeithasol, cymorth ariannol, plant a phobl ifanc a phynciau eraill.

Mae'r crynodeb yn amlinellu rhai o'r profiadau a rannwyd gan bobl am ofal iechyd yn ystod y pandemig Covid-19. Clywsom gan weithwyr gofal iechyd, cleifion a'u hanwyliaid, ac am y golled lethol a brofwyd gan y rheini mewn profedigaeth yn ystod y pandemig.

Profiadau'r rhai mewn profedigaeth, cleifion a'u hanwyliaid

Rhai o'r meysydd y dywedodd bobl wrthym amdanynt oedd:

Mynediad at ofal

  • Ar draws lleoliadau gofal iechyd, canfu cleifion gyrchu gofal yn ystod y pandemig yn eithiadol o anodd ac yn straen. Roedd ymdeimlad amlwg o ofn a chyndynrwydd ar ran cleifion, a'u hanwyliaid, iddynt fynd i ysbyty. Gohiriodd yr ofn hwn o Covid-19 lawer rhag ceisio triniaeth ar gyfer cyflyrau Covid a heb fod yn Covid, a arweiniodd at gyflyrau iechyd yn gwaethygu ac iechyd pobl yn dirywio.
  • Profodd llawer o bobl oediadau ar bob cam o'r broses o gyrchu gofal iechyd, gan gynnwys siarad a'u Meddyg Teulu ac aros am ambiwlans. Cyn gynted ag yr oeddent yn medru cyrchu gofal fodd bynnag, profodd cleifion ofal da ac empathetig yn aml gan staff blinedig ac wedi'u gorymestyn. Canfu llawer o gleifion ac anwyliaid ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn brofiad unig ac un oedd yn ynysu.
  • Canfu'r rheini ag anghenion ychwanegol gyrchu gofal yn neilltuol o anodd. Er enghraifft nid oedd rhai pobl b/Byddar yn gallu cyrchu dehonglwyr a phrofasant heriau cyfathrebu oherwydd y defnydd o orchuddion wyneb.
  • Ble cafodd gofal ei ddehongli yn llai trugarog neu roedd yn llai hygyrch na chyn y pandemig, arweiniodd hyn rai pobl i wneud dewisiadau amgen. Er enghraifft, penderfynodd rhai menywod roi genedigaeth gartref yn hytrach nag mewn ysbyty.

Newidiadau i ofal iechyd

  • Wynebodd llawer o deuluoedd a ffrindiau mewn profedigaeth heriau sylweddol mewn cynorthwyo eu hanwyliaid ar ddiwedd oes. Golygai cyfyngiadau ar ymweliadau nad oedd llawer yn gallu bod yn bresennol gyda'u hanwyliaid. Amlygodd teuluoedd a ffrindiau sawl her gyda gofal diwedd oes, gan gynnwys ansawdd gofal gostyngol a diffyg cyfathrebu eglur a thrylowder am benderfyniadau diwedd oes, gan adael rhai unigolion mewn profedigaeth â theimladau parhaol o euogrwydd ac anhawster mewn prosesu eu colled.
  • Gadawodd y cyfyngiadau a osodwyd ar wasanaethau mamolaeth a rhai gofal iechyd eraill hefyd gleifion ac anwyliaid yn teimlo'n ynysig ac yn methu cyfleoedd i fod yn agos at y cleifion pan roedd eu hangen fwyaf. Dywedodd mamau newydd wrthym sut y teimlent yn unig ac ofnus, tra disgrifiodd y rheini oedd wedi profi genedigaeth cyn y pandemig pa mor swreal oedd hi i fod ar eu pennau'u hunain yn ystod y pandemig.

Covid hir

  • Mae Covid Hir yn parhau i gael effaith ddramatig a niweidiol ar fywydau llawer o bobl. Roedd llawer o bobl â Covid Hir yn siomedig, dig a rhwystredig â'u gofal. Datblygodd gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer Covid Hir dros gwrs y pandemig ond roeddent yn anghyson ac yn anodd i'w cyrchu.

Gwarchod

  • Cafodd pobl a ystyriwyd yn agored i niwed yn glinigol eu cynghori i warchod am gyfnodau penagored a maith yn aml. Nid oeddent yn gallu mynd o gwmpas eu trefniadau a gweithgareddau pob dydd mwyach, megis cyfarfod â theulu a ffrindiau, gweithio neu gyflawni eu diddordebau, a'u gadawodd yn teimlo'n ynysig, unig ac ofnus.

Profiadau'r gweithlu gofal iechyd

Rhai o'r meysydd y dywedodd bobl wrthym amdanynt oedd:

  • Trwy gydol y pandemig clywsom sut aeth llawer o staff gofal iechyd y tu hwnt i ofynion arferol eu swydd. Cydnabu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion eu bod yn gweithio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd. Yn rhan gynnar y pandemig, roedd ymdeimlad ar y cyd o bwrpas ymhlith staff gofal iechyd, er gwaetha'r heriau a'r angen i weithio mewn ffyrdd gwahanol iawn.
  • Dywedodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws pob lleoliad wrthym pa mor heriol oedd hi i ganfod cyfarpar PPE priodol oedd yn ffitio'n dda oedd yn angenrheidiol i'w gwarchod nhw a'u cleifion.
  • Gadawyd pobl yn aml wedi ymlâdd ac yn dioddef o iechyd corfforol a meddyliol gwael oherwydd oriau gwaith hwy, y marw a thrallod roeddent yn eu hwynebu, a phwysau gwaith eraill megis newid trefniadau. Wynebodd rhai staff ddilemâu moesol, gan gynnwys penderfyniadau bywyd a marwolaeth, heb gymorth digonol. Canfu llawer o staff wadu cyfle i berthnasau ddweud ffarwél i anwyliaid yn neilltuol o anodd. Gofynnwyd i staff yn aml weithio i batrymau gwaith gwahanol ac mewn arbenigeddau anghyfarwydd heb hyfforddiant digonol. Effeithiodd achosion Covid-19 ymhlith staff ymhellach ar forâl, a gynyddodd bwysau ar aelodau'r staff oedd yn weddill.
  • Arweiniodd y pandemig at gyflwyno rhai datrysiadau arloesol a mabwysiadu helaethach o dechnoleg ar draws y systemau gofal iechyd.

I lawer, mae effaith y pandemig yn cael ei theimlo o hyd, ac nid ydynt wedi dychwelyd i'w bywydau cyn y pandemig.

Canllawiau ac adnoddau llywodraeth

Dywedodd pobl wrthym:

  • Gadawodd absenoldeb Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) o ansawdd da, oedd yn ffitio'n dda staff, cleifion a gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed. Effeithiodd y diffyg profi digonol cychwynnol ar gyfer Covid-19 ar ddiogelwch, perthnasoedd gwaith a chyfathrebu.
  • Roedd absenoldeb Offer Amddiffynnol Personol (PPE) o ansawdd da yn gadael staff, cleifion a gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed. Effeithiodd y diffyg cychwynnol o brofion digonol ar gyfer Covid-19 ar ddiogelwch, perthnasoedd gwaith a chyfathrebu.
  • Siaradodd rhai gweithwyr gofal iechyd am yr her o weithredu canllawiau oedd yn newid yn aml. I rai, ychwanegodd yr hyder gostyngol hwn yn y canllawiau at ymdeimlad o anhrefn a dryswch ar draws systemau gofal iechyd. Clywsom hefyd sut y gadawodd canllawiau gofal iechyd wedi'u cymhwyso'n anghyson rai cleifion a'u hanwyliaid yn teimlo'n ddryslyd a'u bod yn cael eu trin yn annheg.

I grynhoi

  • Cafodd y pandemig effaith oedd yn newid bywyd ar gleifion, anwyliaid mewn profedigaeth, a gweithwyr gofal iechyd ac i lawer, mae hyn yn cael ei deimlo o hyd heddiw. Adroddodd pobl fod yr ymateb i'r pandemig wedi effeithio ar eu hymddiriedaeth yn llywodraeth y DU ac yn y systemau gofal iechyd.
  • Cafodd ei adrodd yn eang fod cynllunio a rheoli annigonol mewn systemau gofal iechyd. Adroddodd pobl yr arweiniodd newid canllawiau yn aml a diffyg cysondeb ar draws lleoliadau gofal iechyd, at driniaeth anhrefnus ac annheg o gleifion a rhoddodd straen ychwanegol ar staff gofal iechyd. Fodd bynnag roedd enghreifftiau niferus o'r gofal a thosturi a roddwyd i gleifion a staff a aeth y tu hwnt i'r gofyn mewn amgylchiadau eithriadol o anodd.
  • Mynegodd pobl a gyfrannodd at Mae Pob Stori o Bwys bryder y gall pwysau parhaol sy'n effeithio ar wasnaethau gofal iechyd y DU gyfyngu ar eu gallu i baratoi'n ddigonol ar gyfer y pandemig nesaf.

Fformatau amgen

Mae’r Cofnod Mae Pob Stori o Bwys llawn i’w weld yn

Archwiliwch fformatau amgen