Comisiynodd Ymchwiliad Covid-19 y DU Verian i ymgymryd â'r prosiect hwn i roi cipolwg ar brofiadau plant a phobl ifanc, a sut roeddent yn canfod effaith y pandemig arnynt. Bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn yn cael eu defnyddio gan yr Ymchwiliad i ddeall sut roedd plant a phobl ifanc yn teimlo am y newidiadau a ddigwyddodd yn ystod y pandemig a'u heffeithiau, ac wedi addasu iddynt.
Cymorth a Chefnogaeth
Rydym yn deall bod y pandemig wedi effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, ac y gallai'r broses o ymchwilio i'r pandemig achosi gofid i chi.
Os ydych chi o dan 18 oed, gweler manylion y sefydliadau cymorth sy'n gallu eich cefnogi.