Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dechrau ei wrandawiadau cyhoeddus diweddaraf yr wythnos nesaf, y drydedd o chwe set o wrandawiadau a gynlluniwyd ar gyfer 2025. Mae hefyd wedi cadarnhau dyddiadau ar gyfer ei wrandawiadau cyhoeddus terfynol, Modiwl 10, ym mis Chwefror 2026.
Yr wythnos nesaf (dydd Llun 12 Mai), bydd Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett, yn agor gwrandawiadau ar gyfer seithfed ymchwiliad yr Ymchwiliad (Modiwl 7) a fydd yn archwilio'r gwahanol raglenni profi, olrhain ac ynysu ar draws pedair gwlad y DU. Cynhelir y gwrandawiadau yn Nhŷ Dorland yn Paddington ac maent yn agored i'r cyhoedd fynychu. Cynhelir y gwrandawiadau yn Nhŷ Dorland yn Paddington ac maent ar agor i'r cyhoedd fynychu..
Gellir gweld amserlen tystion ar gyfer wythnos gyntaf gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 7 yma. ar ein gwefan.
Mae'r Ymchwiliad wedi'i rannu'n ymchwiliadau gwahanol – neu 'Fodiwlau' – a fydd yn archwilio gwahanol rannau o baratoadau ac ymateb y DU i'r pandemig a'i effaith.
Mae'r Ymchwiliad bellach yn gallu cadarnhau y bydd ei wrandawiadau Modiwl 10 yn digwydd o ddydd Llun 16 Chwefror i ddydd Iau 5 Mawrth 2026. Dyma fydd wythnosau olaf gwrandawiadau cyhoeddus a gynhelir gan Ymchwiliad Covid-19 y DU.
“Bydd yr Ymchwiliad yn dod â’i wrandawiadau cyhoeddus i ben ddydd Iau 5 Mawrth 2026 ar ddiwedd gwrandawiad Modiwl 10 - ‘Effaith ar gymdeithas’. Yn dilyn pob gwrandawiad Modiwl, mae'r Ymchwiliad yn cynhyrchu adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau a'i argymhellion, gyda'r nesaf i'w gyhoeddi'r hydref hwn. Bydd adroddiadau ychwanegol yn dilyn yn gyflym yn 2026.”
Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf yr Ymchwiliad, Modiwl 1 ‘Cydnerthedd a pharatoadau’, ym mis Gorffennaf 2024. Mae ei ail adroddiad - sy'n ymchwilio i wneud penderfyniadau gwleidyddol ar draws pedair llywodraeth y DU ac yn cwmpasu gwrandawiadau Modiwl 2 yr Ymchwiliad yn ogystal â gwrandawiadau 2A, 2B a 2C a gynhaliwyd yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast yn y drefn honno - i fod i gael ei gyhoeddi yn Hydref 2025. Bydd adroddiadau dilynol yn parhau i gael eu cyhoeddi yn dilyn gwrandawiadau’r M10.
Dyma'r amserlen gyflawn, wedi'i diweddaru ar gyfer gwrandawiadau sydd ar ddod:
Modiwl | Agorwyd ar… | Yn ymchwilio i... | Dyddiadau |
---|---|---|---|
7 | 19 Mawrth 2024 | Profi, olrhain ac ynysu | Dydd Llun 12 Mai – Dydd Gwener 30 Mai 2025 |
6 | 12 Rhagfyr 2023 | Y sector gofal | Dydd Llun 30 Mehefin – Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025 |
8 | 21 Mai 2024 | Plant a phobl ifanc | Dydd Llun 29 Medi – Dydd Iau 23 Hydref 2025 |
9 | 9 Gorffennaf 2024 | Ymateb economaidd | Dydd Llun 24 Tachwedd – Dydd Iau 18 Rhagfyr 2025 |
10 | 17 Medi 2024 | Effaith ar gymdeithas | Dydd Llun 16 Chwefror – Dydd Iau 5 Mawrth 2026 |