Crynodeb 'Byr' Adroddiad Modiwl 1 - Gwytnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig


Adroddiad ac Argymhellion yn Gryno

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sy’n archwilio’r ymateb i’r pandemig Covid-19, a’i effaith, er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Roedd maint y pandemig yn ddigynsail; mae gan yr Ymchwiliad amrywiaeth enfawr o faterion i’w cwmpasu.

Penderfynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Gwir Anrhydeddus y Farwnes Heather Hallett DBE, fynd i’r afael â’r her hon drwy rannu ei gwaith yn ymchwiliadau ar wahân a elwir yn fodiwlau. Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol â’i wrandawiadau cyhoeddus ei hun lle mae’r Cadeirydd yn gwrando ar dystiolaeth.

Yn dilyn gwrandawiadau, caiff argymhellion ar gyfer newidiadau eu datblygu a’u rhoi mewn Adroddiad Modiwl. Bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys canfyddiadau o’r dystiolaeth a gasglwyd ar draws pob modiwl ac argymhellion y Cadeirydd ar gyfer y dyfodol.

Mae’r modiwl cyntaf, Modiwl 1, yn canolbwyntio ar gydnerthedd a pharodrwydd y Deyrnas Unedig. Archwiliodd yr ymchwiliad gyflwr strwythurau’r DU a’r gweithdrefnau sydd ar waith i baratoi ar gyfer pandemig ac ymateb iddo.

Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar feysydd penodol, gan gynnwys:

  • Gwneud penderfyniadau craidd a llywodraethu gwleidyddol y DU - gan gynnwys yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon
  • Systemau gofal iechyd
  • Brechlynnau a therapiwteg
  • Caffael a dosbarthu cyfarpar a chyflenwadau allweddol
  • Y sector gofal
  • Rhaglenni profi, olrhain ac ynysu
  • Plant a phobl ifanc
  • Yr ymateb economaidd i'r pandemig

Modiwl 1: Gwydnwch a Pharodrwydd y Deyrnas Unedig

Mae’n rhaid i wleidyddion wneud penderfyniadau anodd ynghylch sut i ddefnyddio adnoddau i baratoi ar gyfer argyfyngau. Mae paratoi ar gyfer pandemig neu unrhyw argyfwng arall yn costio arian, hyd yn oed os yw’n ddigwyddiad na fydd yn digwydd o bosibl.

Fodd bynnag, mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi canfod bod y system o adeiladu parodrwydd ar gyfer y pandemig - hynny yw, ein gallu i ddelio â phandemig - wedi dioddef o sawl diffyg sylweddol:

  • Er gwaethaf cynllunio ar gyfer ffliw yn torri allan, nid oedd ein parodrwydd a’n cydnerthedd yn ddigonol ar gyfer y pandemig byd-eang a ddigwyddodd
  • Cymhlethwyd cynllunio ar gyfer argyfwng gan y sefydliadau a’r strwythurau niferus dan sylw. Roedd y dull o asesu risg yn ddiffygiol, gan arwain at gynllunio annigonol i reoli ac atal risgiau, ac ymateb iddynt yn effeithiol
  • Nid oedd strategaeth bandemig hen ffasiwn llywodraeth y DU, a ddatblygwyd yn 2011, yn ddigon hyblyg i addasu wrth wynebu’r pandemig yn 2020
  • Methodd cynllunio ar gyfer argyfwng roi digon o ystyriaeth i anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol presennol ac nid oedd awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr yn ymgysylltu’n ddigonol
  • Methwyd â dysgu’n llawn o ymarferion brys sifil y gorffennol ac achosion o glefydau
  • Roedd diffyg sylw i’r systemau a fyddai’n helpu i brofi, olrhain ac ynysu. Roedd dogfennau polisi wedi dyddio, yn cynnwys rheolau a gweithdrefnau cymhleth a all achosi oedi hir, yn llawn jargon ac yn rhy gymhleth
  • Ni chafodd gweinidogion, sydd yn aml heb hyfforddiant arbenigol mewn argyfyngau sifil, amrediad digon eang o gyngor gwyddonol ac yn aml roeddent wedi methu â herio’r cyngor a gawsant
  • Roedd diffyg rhyddid ac ymreolaeth gan gynghorwyr i fynegi safbwyntiau gwahanol, a arweiniodd at ddiffyg safbwyntiau amrywiol. Roedd eu cyngor yn aml yn cael ei danseilio gan “groupthink” - ffenomen y mae pobl mewn grŵp yn tueddu i feddwl am yr un pethau yn yr un ffordd

Pe baem wedi paratoi’n well, gallem fod wedi osgoi rhywfaint o gostau ariannol, economaidd a dynol enfawr y pandemig Covid-19.

Mae Adroddiad Modiwl 1 yr Ymchwiliad felly yn argymell archwiliad mawr ar y ffordd y mae llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn paratoi ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan.

Argymhellion

Mae crynodeb o’r rhain fel a ganlyn: Adroddiad Modiwl 1. Mae crynodeb o’r rhain fel a ganlyn:

  • Symleiddiad radical o’r systemau parodrwydd a chydnerthedd ar gyfer argyfwng sifil. Mae hyn yn cynnwys rhesymoli a symleiddio’r fiwrocratiaeth bresennol a darparu strwythurau ac arweinyddiaeth Weinidogaethol a swyddogol gwell a symlach
  • Dull newydd o asesu risg sy’n darparu ar gyfer gwerthusiad gwell a mwy cynhwysfawr o amrediad ehangach o risgiau gwirioneddol
  • Dull newydd ar gyfer y DU gyfan o ddatblygu strategaeth, sy’n dysgu gwersi o’r gorffennol ac o ymarferion brys sifil rheolaidd, ac sy’n rhoi ystyriaeth briodol i anghydraddoldebau a gwendidau presennol
  • Gwell systemau casglu a rhannu data cyn pandemigau yn y dyfodol, a chomisiynu amrediad ehangach o brosiectau ymchwil
  • Cynnal ymarfer ymateb pandemig ledled y DU o leiaf bob tair blynedd a chyhoeddi’r canlyniad
  • Dod ag arbenigedd allanol o’r tu allan i’r llywodraeth a’r Gwasanaeth Sifil i mewn i herio a gwarchod rhag problem hysbys groupthink
  • Cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar y system o barodrwydd a chydnerthedd am argyfwng sifil
  • Yn olaf ac yn bwysicaf oll, creu un corff statudol annibynnol i fod yn gyfrifol am barodrwydd ac ymateb system gyfan. Bydd yn ymgynghori’n eang, er enghraifft ag arbenigwyr ym maes parodrwydd a chydnerthedd, a’r sector gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, ac yn rhoi cyngor strategol i’r llywodraeth ac yn gwneud argymhellion

Mae’r argymhellion hyn wedi’u cynllunio i gael eu gweithredu a chydweithio; i gynhyrchu newid gwirioneddol yn y ffordd y mae’r DU yn paratoi ar gyfer argyfyngau fel pandemigau.

Mae’r Cadeirydd yn disgwyl i’r holl argymhellion ddigwydd a’u gweithredu o fewn yr amserlenni a nodir yn yr argymhellion. Bydd yr Ymchwiliad yn monitro gweithrediad yr argymhellion yn ystod ei oes.

I gael gwybod mwy neu i lawrlwytho copi o Adroddiad Modiwl 1 llawn neu fformat hygyrch arall, ewch i: Adroddiadau.

Fformatau amgen

Mae'r adroddiad 'Yn Gryno' hwn hefyd ar gael mewn amrywiaeth o fformatau eraill.

Archwiliwch fformatau amgen