Beth yw Ymchwiliad Covid-19 y DU?

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi’i sefydlu i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Mae gwaith yr Ymchwiliad yn cael ei arwain gan ei Gylch Gorchwyl.


Cymorth a Chefnogaeth

Rydym yn deall bod y pandemig wedi effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, ac y gallai'r broses o ymchwilio i'r pandemig achosi gofid i chi.

Cefnogaeth wrth ymgysylltu â'r Ymchwiliad


Adroddiad Modiwlau 2, 2A, 2B, 2C: Gwneud penderfyniadau craidd a llywodraethu gwleidyddol

Cyhoeddodd yr Ymchwiliad ei ail adroddiad ac argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad i 'Gwneud penderfyniadau craidd a llywodraethu gwleidyddol' ddydd Iau 20 Tachwedd 2025.

Darllenwch yr adroddiad

Gwrandawiadau

Ymateb economaidd (Modiwl 9) – Gwrandawiadau Cyhoeddus

  • Dyddiad: 8 Rhagfyr 2025
  • Dechrau: 10:30 am
  • Modiwl: Ymateb economaidd (Modiwl 9)
  • Math: Modiwl 9

Bydd Modiwl 9 yn archwilio’r ymyriadau economaidd a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig mewn ymateb i bandemig Covid-19.

Amserlen gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 9

Mae'r darllediad hwn wedi'i amserlennu. Byddwch yn gallu ei ffrydio isod neu ar ein sianel YouTube (yn agor mewn tab newydd) o 10:30yb ar 8 Rhagfyr 2025.

Bydd y darllediad hwn ar gael yn fuan.


Mae Pob Stori o Bwys

Diolch i bawb sydd wedi rhannu eu stori drwy Every Story Matters

Dyma oedd yr ymarfer gwrando mwyaf a gynhaliwyd erioed gan Ymchwiliad cyhoeddus yn y DU. Rhannodd degau o filoedd o bobl eu profiad o'r pandemig a'r effaith a gafodd arnynt hwy a'r bobl o'u cwmpas.

Ar 23 Mai 2025, daeth Every Story Matters i ben ond bydd y straeon hyn yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ymchwiliadau'r Ymchwiliad. Byddant yn dod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus, ac yn helpu'r Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd yr Ymchwiliad, i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Mae Pob Stori o Bwys

Newyddion

Diweddariadau o'r Ymchwiliad

"Roeddwn i'n cadw fy mhen uwchben y dŵr". Mae cofnod diweddaraf Mae Pob Stori o Bwys yn datgelu profiadau'r cyhoedd o gymorth economaidd a ddarparwyd yn ystod y pandemig

Heddiw (dydd Llun 24 Tachwedd 2025) mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi ei gofnod Mae Pob Stori yn Bwysig ar gyfer Modiwl 9, sy'n archwilio ymateb economaidd y llywodraeth i bandemig Covid-19 (cwmpas Modiwl 9).

  • Dyddiad: 24 Tachwedd 2025

Ymchwiliad yn cyhoeddi ail adroddiad a 19 o argymhellion, yn archwilio 'Gwneud penderfyniadau craidd yn y DU a llywodraethu gwleidyddol'

Mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid y DU, y Farwnes Heather Hallett, wedi cyhoeddi ei hail adroddiad heddiw sy'n dod i'r casgliad bod ymateb pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r pandemig yn aml yn achos o 'rhy ychydig, rhy hwyr'.

  • Dyddiad: 20 Tachwedd 2025

Gwrandawiad rhagarweiniol terfynol ar gyfer Effaith ar gymdeithas (Modiwl 10)

Yr wythnos nesaf, dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025, bydd yr Ymchwiliad yn cynnal y gwrandawiad rhagarweiniol terfynol ar gyfer ei ymchwiliad i'r 'Effaith ar gymdeithas' (Modiwl 10). Cynhelir y gwrandawiad yng Nghanolfan Gwrandawiadau'r Ymchwiliad, Dorland House, Llundain, W2 6BU a bydd yn dechrau am 11:30am.

  • Dyddiad: 29 Hydref 2025

Darganfyddwch am:

Dogfennau

Mae ein llyfrgell ddogfennau yn cadw'r holl gyhoeddiadau, tystiolaeth, adroddiadau a chofnodion sy'n ymwneud ag ymchwiliadau a rhedeg yr Ymchwiliad.

Modiwlau

Gwybodaeth am bynciau’r ymchwiliadau (modiwlau) a gaiff eu harchwilio i gyflawni nodau’r Ymchwiliad.

sianel YouTube yr Ymchwiliad

Maer' ymchwiliad wedi derbyn ei Gylch Gorchwyl terfynol, sy'n gosod y pynciau ar gyfer archwiliadau'r Ymchwiliad i ymateb y DU i'r pandemig.