Diweddariad ar yr ymchwiliad: Cyhoeddi ymchwiliadau newydd

  • Cyhoeddwyd: 30 Mai 2023
  • Pynciau: Modiwlau

Heddiw, mae Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett, wedi nodi cynlluniau i agor tri ymchwiliad pellach yn 2023 a chadarnhaodd ei bod yn bwriadu dod â gwrandawiadau cyhoeddus i ben erbyn haf 2026.

Y llynedd, addewais y byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau y gall y DU gyfan ddysgu gwersi defnyddiol o'r pandemig cyn gynted â phosibl.

Heddiw rwy'n rhoi mwy o eglurder ar ein hymchwiliadau a'r pwynt terfyn tebygol ar gyfer gwrandawiadau'r Ymchwiliad.

Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett

Mae'r Ymchwiliad wedi'i rannu'n ymchwiliadau gwahanol, a fydd yn archwilio gwahanol rannau o barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig a'i effaith ac ymateb iddo. Hyd yn hyn, mae'r Ymchwiliad wedi agor tri ymchwiliad: i barodrwydd a gwydnwch pandemig y DU (Modiwl 1); gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yn y DU a gweinyddiaethau datganoledig (Modiwlau 2, 2A, 2B a 2C); ac effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd (Modiwl 3).

Bydd yr Ymchwiliad yn dechrau gwrando ar dystiolaeth ar gyfer Modiwl 1 mewn gwrandawiadau cyhoeddus ar 13 Mehefin 2023. Bydd gwrandawiadau cyhoeddus yn dechrau ar gyfer Modiwl 2 (gwneud penderfyniadau ledled y DU) ym mis Hydref 2023. Dilynir hyn gan wrandawiadau cyhoeddus ar gyfer Modiwl 2A (gwneud penderfyniadau yn yr Alban) ym mis Ionawr 2024, Modiwl 2B (gwneud penderfyniadau yng Nghymru) ym mis Chwefror 2024 a Modiwl 2C (gwneud penderfyniadau yng Ngogledd Iwerddon) ym mis Ebrill 2024. Disgwyliwn Gwrandawiadau Modiwl 3 i ddechrau yn hydref 2024. 

Yn 2023, bydd yr Ymchwiliad hefyd yn agor tri ymchwiliad newydd: 

  • Bydd Modiwl 4 yn agor ar 5 Mehefin a bydd yn archwilio brechlynnau, therapiwteg a thriniaethau gwrthfeirysol ledled y DU. Mae'r Ymchwiliad yn bwriadu clywed tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn ystod haf 2024. Bydd cwmpas Modiwl 4 yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad ar 5 Mehefin a bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cyfranogwr Craidd ar agor rhwng 5 Mehefin a 30 Mehefin 2023. 
  • Bydd Modiwl 5 yn archwilio Caffael y Llywodraeth ar draws y DU. Bydd yr Ymchwiliad yn agor yr ymchwiliad hwn ym mis Hydref 2023, gyda gwrandawiadau tystiolaeth wedi'u trefnu ar gyfer dechrau 2025. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cyfranogwr Craidd ar agor rhwng 24 Hydref 2023 a 17 Tachwedd 2023.
  • Bydd Modiwl 6, sy'n archwilio'r sector gofal ledled y DU, yn agor ym mis Rhagfyr. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cyfranogwr Craidd ar agor rhwng 12 Rhagfyr 2023 a 19 Ionawr 2024. Bydd gwrandawiadau cyhoeddus yn dechrau yng ngwanwyn 2025. 

Bydd manylion pellach ar gyfer pob ymchwiliad gan gynnwys cwmpas yr ymchwiliad a manylion ar sut i wneud cais i fod yn Gyfranogwr Craidd yn cael eu cyhoeddi pan fyddant yn agor. 

Er mwyn sicrhau bod argymhellion yr Ymchwiliad yn amserol, mae'r Cadeirydd wedi addo cyhoeddi adroddiadau rheolaidd. Mae’n gobeithio cyhoeddi adroddiadau ar gyfer Modiwl 1 (parodrwydd a gwydnwch) a Modiwl 2 (gwneud penderfyniadau craidd) yn ystod 2024. 

Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi ymchwiliadau'r 12 mis nesaf yn gynnar yn 2024. Mae rhestr lawn o'r pynciau y bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt i'w gweld yn ein Cylch Gorchwyl. 

Bydd ymchwiliadau yn y dyfodol yn cynnwys profi ac olrhain, addysg, plant a phobl ifanc, ymyrraeth y Llywodraeth trwy gymorth ariannol i fusnes, swyddi, a’r hunangyflogedig, cyllid ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol/cymunedol, budd-daliadau a chymorth i bobl agored i niwed. Bydd modiwlau terfynol yr Ymchwiliad yn ymchwilio'n benodol i effaith ac anghydraddoldebau yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys gweithwyr allweddol – ac yng nghyd-destun busnesau. Mae’r Ymchwiliad yn un DU gyfan a bydd yn archwilio ymatebion y Llywodraeth ddatganoledig a’r DU drwy gydol ei holl waith. 

Mae’r Ymchwiliad yn bwriadu cwblhau gwrandawiadau cyhoeddus erbyn haf 2026.