Datganiad fideo’r Cadeirydd i’r cyhoedd – trawsgrifiad Cymraeg


Fy enw yw Heather Hallett a fi yw Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU. Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i’r pandemig Covid19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol

Mae’r Prif Weinidog yn awr wedi gosod y Cylch Gorchwyl terfynol ar gyfer yr Ymchwiliad ac mae’n gallu cael ei sefydlu’n ffurfiol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005. Mae’r Cylch Gorchwyl yn gosod yr amlinelliad eang ar gyfer yr Ymchwiliad ond fel Cadeirydd yr Ymchwiliad, bydd gennyf ddisgresiwn i archwilio materion yn llawer mwy manwl.

Un o fy nhasgau cyntaf fel Cadeirydd oedd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cylch gorchwyl arfaethedig. Teithiodd fy nhîm a minnau o gwmpas y DU i gyfarfod ag aelodau o deuluoedd mewn profedigaeth a grwpiau amrywiol â buddiant ac fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar-lein. Yn gyfan gwbl fe wnaethom dderbyn dros 20,000 o ymatebion. Rwy’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd ac a’m helpodd i wneud fy argymhellion i’r Prif Weinidog. 

Rwy’n falch i weld bod cymaint o’r rheini wedi cael eu derbyn. 

Yn ystod yr ymgynghoriad gwnes i 7 addewid i’r teuluoedd mewn profedigaeth ac yn awr rwy’n eu gwneud i chi. 

  1. Bydd pobl sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig wrth galon gwaith yr Ymchwiliad. Rwy’n gwybod bod llawer yn teimlo eich bod wedi cael eich anwybyddu ac nad oes neb wedi bod yn gwrando. Mae fy nhîm a minnau yn gwrando arnoch a byddwn yn dal i wrando.
  1. Bydd yr Ymchwiliad yn gadarn annibynnol. Ni fyddaf yn goddef unrhyw ymdrech i gamarwain yr Ymchwiliad, i danseilio ei uniondeb na’i annibyniaeth. Os byddaf yn cyfarfod ag unrhyw ymdrech o’r fath, byddaf yn gwneud fy marn yn hysbys mewn gwrandawiad cyhoeddus. 
  1. Byddaf yn gwneud popeth yn fy mhŵer i gynnal Ymchwiliad teg, cytbwys a thrwyadl. 
  1. Byddaf yn cyflwyno fy argymhellion cyn gynted ag y gallaf trwy gynhyrchu adroddiadau interim. Yn y ffordd honno, os cânt eu mabwysiadu, rwy’n gobeithio lleihau neu atal y dioddefaint a chaledi mewn unrhyw bandemig yn y dyfodol.
  1. Bydd yr Ymchwiliad hwn nid yn Llundain yn unig. Bydd tîm yr Ymchwiliad a minnau yn teithio o gwmpas y DU i sicrhau ein bod yn clywed oddi wrth gymaint o bobl â phosibl. Rwy’n eithriadol o ymwybodol fod profiadau yn wahanol mewn rhannau gwahanol o’r DU.
  1. Bydd yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal yn agored. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar ein gwefan fel bod pawb yn gallu gwybod pa gynnydd rydym wedi’i wneud. 
  1. Yn olaf, bydd yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal yn effeithlon ac mor gyflym ag y gallwn ei wneud. 

Mae’r Ymchwiliad yn gallu dechrau ei waith o ddifrif yn awr. Er mwyn rhoi syniad i chi o’r gwaith rydym yn ei wneud yn barod, mae aelodau o’r tîm yn cymryd rhan ar hyn o bryd mewn dadansoddi’r materion i’w hymchwilio, cynllunio casglu’r dystiolaeth a sefydlu pa dystion a pha gyngor arbenigol fydd yn ofynnol. Rydym hefyd yn comisiynu ymchwil ac yn cynllunio’r prosiect gwrando yr Hydref hwn er mwyn i’r rheini a gafodd eu heffeithio gan y pandemig allu rhannu eu profiadau â’r Ymchwiliad.

Mae gennym dasg enfawr a bydd hi’n cymryd amser i gasglu a dadansoddi’r miloedd o ddogfennau y byddwn yn gofyn amdanynt ond rydym yn gobeithio cychwyn gwrandawiadau cyhoeddus y dystiolaeth yn 2023. Rwy’n gofyn am eich amynedd a’ch dealltwriaeth ymlaen llaw. Gallwch fod yn sicr y bydd tîm cyfan yr Ymchwiliad yn gweithio’n eithriadol o galed i ateb amserlen uchelgeisiol. 

Diolch.