Adroddiad ac argymhellion Yn Gryno
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sy’n archwilio’r ymateb i bandemig Covid-19, ac effaith y pandemig, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Gosodwyd ei gylch gorchwyl gan y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson.
Roedd maint y pandemig yn ddigynsail; mae gan yr Ymchwiliad amrywiaeth enfawr o faterion i’w cwmpasu. Penderfynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes (Heather) Hallett DBE, fynd i’r afael â’r her hon drwy rannu ei gwaith yn ymchwiliadau ar wahân a elwir yn fodiwlau. Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol â’i wrandawiadau cyhoeddus ei hun lle mae’r Cadeirydd yn gwrando ar dystiolaeth.
Yn dilyn gwrandawiadau, caiff argymhellion ar gyfer newid eu datblygu a’u rhoi mewn Adroddiad Modiwl. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys canfyddiadau o’r dystiolaeth a gasglwyd ar draws pob modiwl ac argymhellion y Cadeirydd ar gyfer y dyfodol. Mae’r adroddiadau canlynol eisoes wedi cael eu cyhoeddi:
- Modiwl 1 – Cydnerthedd a pharodrwydd y Deyrnas Unedig
- Modiwlau 2, 2A, 2B a 2C – Penderfyniadau craidd a llywodraethiant gwleidyddol
- Modiwl 3 – Systemau gofal iechyd
Mae’r pedwerydd modiwl yn ystyried datblygu a defnyddio brechlynnau a therapiwteg (a elwir weithiau’n ‘gyffuriau’) yn y DU yn ystod pandemig Covid-19. Cynhaliwyd gwrandawiadau cyhoeddus rhwng 14 Ionawr a 31 Ionawr 2025.
Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Modiwl 5 – Caffael a dosbarthu cyfarpar a chyflenwadau allweddol
- Modiwl 6 – Y sector gofal
- Modiwl 7 – Rhaglenni profi, olrhain ac ynysu
- Modiwl 8 – Plant a phobl ifanc
- Modiwl 9 – Yr ymateb economaidd i’r pandemig
- Modiwl 10 – Yr effaith ar gymdeithas
Modiwl 4: Brechlynnau a therapiwteg
Awdurdododd a chyflenwodd y DU frechlynnau effeithiol i’r cyhoedd o fewn blwyddyn i achos cyntaf y DU o Covid-19 ym mis Ionawr 2020. Fe wnaeth cyflwyno’r brechlyn cyntaf roi hwb i gyflwyniad brechu ledled y DU a oedd yn rhagori ar y targedau ar gyfer cwmpasu’r boblogaeth. Roedd un o’r brechlynnau hefyd wedi’i ddatblygu yn y DU.
Amcangyfrifodd un astudiaeth, erbyn mis Mawrth 2023, fod bywydau 475,000 o bobl 25 oed neu hŷn wedi cael eu hachub o ganlyniad i frechiadau Covid-19 yn Lloegr a’r Alban. (Ni chafodd Cymru a Gogledd Iwerddon eu cynnwys yn yr astudiaeth.)
Cyflwynwyd therapiwteg hefyd o fewn misoedd i’r pandemig gael ei ddatgan. Erbyn mis Mehefin 2020, roedd y cyffur dexamethasone (gwrthlidiol) yn cael ei ddefnyddio i achub bywydau cleifion Covid-19 yn yr ysbyty.
Dangosodd y cyflawniadau hyn lawer o rinweddau gorau systemau ymchwil iechyd
a gwyddonol y DU, gan gynnwys:
- darganfod a datblygu brechlynnau a therapiwteg yn gyflym, yn seiliedig ar safle’r DU fel arweinydd byd-eang mewn gwyddoniaeth fiofeddygol;
- sefydlu tasgluoedd arbenigol ar frechlynnau a therapiwteg yn gyflym, a ddaeth ag arbenigedd cenedlaethol ynghyd ac a weithredodd yn bendant;
- dosbarthu brechlynnau i’r boblogaeth gyfan, yn ôl trefn flaenoriaeth glir, wedi’i chydlynu a’i rheoli’n effeithlon gan y systemau iechyd cyhoeddus ym mhob un o’r pedair gwlad; a
- dull mewn-risg llywodraeth y DU o ariannu ymchwil a datblygu ystod eang o frechlynnau posibl, gan wybod na fyddai rhai yn llwyddiannus. Creodd hyn gymaint o gyfleoedd â phosibl i’r DU gaffael brechlyn effeithiol.
Erbyn mis Gorffennaf 2021, roedd bron i 87% o boblogaeth oedolion Lloegr wedi derbyn o leiaf un dos o frechiad. Yng Nghymru a’r Alban roedd hyn tua 90%, ac yng Ngogledd Iwerddon roedd bron yn 82%. Roedd ymroddiad staff iechyd a gofal i ddarparu brechlynnau ar gyfradd ddigynsail, a’r penderfyniad cyhoeddus i gymryd rhan i amddiffyn y rhai o’u cwmpas, yn ffactorau pwysig a achosodd i gynifer o bobl fanteisio ar gynnig y brechlyn.
Fodd bynnag, roedd nifer o grwpiau nad oedd y rhaglen yn gweithio’n dda iddynt ac nad oeddent yn gallu, neu nad oeddent eisiau, derbyn y cynnig o frechlyn. Roedd llai o bobl yn cael brechiadau mewn cymunedau â lefelau uwch o amddifadedd ac mewn rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Roedd yr anghydraddoldeb hwn yn y nifer a gymerodd yn rhagweladwy. Cyn y pandemig nesaf, dylid cymryd camau wedi’u targedu mwy i gyfathrebu â’r grwpiau hyn a meithrin hyder yn niogelwch rhaglenni brechu.
Mae oedi cyn cael brechlyn ar gynnydd ledled y byd ac yn y DU. Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol a negeseuon gwib yn golygu y gall gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ledaenu’n gyflym. Mae’n rhaid i’r DU gymryd camau nawr i wrthweithio hyn.
Un pryder a daniodd y diffyg ymddiriedaeth mewn brechlynnau oedd y mater o ddiogelwch. Er gwaethaf brys y dasg a’r cyflymder y datblygwyd brechlynnau, mae’r Ymchwiliad yn canfod nad oedd y camau a gymerwyd gan lywodraeth y DU a chyrff rheoleiddio yn cyfaddawdu safonau diogelwch llym y DU. Er mwyn cryfhau hyn ymhellach, dylai rheoleiddwyr gael mynediad at ddata cleifion cyfredol i ganiatáu monitro cyflym a chynhwysfawr o effeithiau brechlynnau neu therapiwteg newydd ar y boblogaeth.
Cafodd mwyafrif helaeth y rhai a gafodd y brechlyn sgîl-effeithiau bach iawn neu ddim sgîl-effeithiau o gwbl. Fodd bynnag, roedd grŵp bach lle roedd brechlynnau wedi arwain at anaf difrifol neu farwolaeth iddynt. Clywodd yr Ymchwiliad dystiolaeth bwerus gan rai o’r rheini a anafwyd a chan rai o’r rheini a gollodd anwyliaid. Disgrifiwyd profiadau tebyg drwy ymarfer gwrando’r Ymchwiliad, Mae Pob Stori o Bwys. Mae’n hanfodol fod cynllun llywodraeth digon cefnogol ar waith i helpu pobl sy’n dioddef anaf difrifol yn dilyn brechu ac anwyliaid sydd ag angen gwneud hawliad yn dilyn profedigaeth. Nid yw’r cynllun presennol – y Cynllun Taliad Difrod Brechlyn – yn ddigon cefnogol. Mae angen diwygiad brys arno.
Roedd yn ffodus fod amseriad y feirws Covid-19 wedi cyd-daro â chanlyniad degawdau o ymchwil byd-eang am dechnolegau y gellid eu haddasu a’u defnyddio’n gyflym i greu brechlynnau. Fodd bynnag, aeth y DU i mewn i’r pandemig hefyd heb ddigon o therapiwteg a gallu gweithgynhyrchu brechlynnau. Mae camau eisoes wedi cael eu cymryd i ymateb i rai o’r materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod galluoedd ymchwil y DU yn parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygu brechlynnau a therapiwtig. Mae’n rhaid i’r DU beidio â chaniatáu i’r perthnasoedd, y seilwaith a’r arbenigedd a oedd mor llwyddiannus yn ystod pandemig Covid-19 wywo.
Argymhellion
Er mwyn sicrhau bod y DU mewn sefyllfa gref i ddatblygu a chyflenwi brechlynnau a therapiwteg i ymladd yn erbyn y pandemig nesaf, mae’r Ymchwiliad yn argymell:
sefydlu panel cynghori arbenigol fferyllol i oruchwylio parodrwydd y DU i ddatblygu, caffael a chynhyrchu fferyllol (brechlynnau a therapiwteg);
cynhyrchu strategaethau a chyfathrebiadau brechu wedi’u targedu, er mwyn cynyddu’r nifer sy’n derbyn brechlynnau a lleihau anghydraddoldebau. Dylai hyn gynnwys ymgynghori â rhwydweithiau lleol ynghylch ymgyrchoedd cyfathrebu a dulliau Cyflawni;
gwella monitro a gwerthuso nifer y bobl sy’n cymryd a chyflenwi brechlynnau, er mwyn deall y mesurau y profwyd eu bod yn effeithiol wrth gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd brechlynnau;
hwyluso mynediad cyrff rheoleiddio at gofnodion gofal iechyd at ddibenion monitro diogelwch ôl-awdurdodiad brechlynnau a therapiwteg newydd; a
diwygio’r Cynllun Taliad Difrod Brechlyn cyn gynted â phosibl, gyda chynnydd yn y taliad lleiaf a ddyfernir i’r rhai a anafwyd gan frechlyn a system decach ar gyfer pennu Taliad.
Mae’r Cadeirydd yn disgwyl y bydd yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu a’u rhoi ar waith o fewn yr amserlenni a nodir yn yr argymhellion. Bydd yr Ymchwiliad yn monitro gweithrediad yr argymhellion yn ystod ei oes.
Mae disgrifiad cynhwysfawr o’r argymhellion i’w gael yn Adroddiad llawn Modiwl 4, gyda rhestr lawn yn Atodiad 3.
I gael gwybod mwy neu i lawrlwytho copi o Adroddiad Modiwl 4 llawn neu fformatau
hygyrch eraill, ewch i: https://covid19.public-inquiry.uk/reports.