Diweddariad: Ymchwiliad i gyhoeddi ail adroddiad, Modiwl 2 ‘Gwneud penderfyniadau craidd a llywodraethiant gwleidyddol y DU’, Tachwedd 2025

  • Cyhoeddwyd: 2 Medi 2025
  • Pynciau: Modiwl 2, Adroddiadau

Bydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn cyhoeddi ei ail adroddiad a'i argymhellion ym mis Tachwedd 2025, a fydd yn dod â'i ymchwiliad i 'Gwneud penderfyniadau craidd a llywodraethiant gwleidyddol y DU (Modiwl 2)' yn ystod y pandemig i ben.

Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan yr Ymchwiliad am 4pm ddydd Iau 20 Tachwedd. Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn cyflwyno ei hargymhellion mewn datganiad fideo ar sianel YouTube yr Ymchwiliad yn fuan wedyn

Cynhaliwyd gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer ymchwiliad Modiwl 2 - gan gynnwys Modiwlau 2A (Yr Alban), 2B (Cymru) a 2C (Gogledd Iwerddon) - yn Llundain, Caeredin, Caerdydd a Belfast rhwng Hydref 2023 a Mai 2024. Clywodd y Cadeirydd dystiolaeth gan dystion gan gynnwys Prif Weinidogion presennol a chyn-Brif Weinidogion yn ogystal â gwleidyddion, gwyddonwyr, arbenigwyr, cynghorwyr llywodraeth a gweision sifil uwch erailll. 

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi'i rannu'n 10 ymchwiliad gwahanol – neu 'Modiwlau' – sy'n archwilio gwahanol rannau o baratoadau ac ymateb y DU i'r pandemig a'i effaith. Cafodd yr adroddiad ar y modiwl cyntaf. Cydnerthedd a Pharodrwydd, a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2024. Erbyn diwedd y flwyddyn hon bydd yr Ymchwiliad wedi cwblhau gwrandawiadau mewn naw o'r deg ymchwiliad. 

Y gwrandawiadau cyhoeddus nesaf a drefnwyd fydd ar gyfer Modiwl 8 - ‘Plant a Phobl Ifanc’. Mae'r Ymchwiliad yn bwriadu clywed tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn Llundain o ddydd Llun 29 Medi 2025 i ddydd Iau 23 Hydref 2025. Mae'r Cadeirydd yn anelu at orffen gwrandawiadau cyhoeddus ddechrau mis Mawrth 2026. Cyhoeddir adroddiad nesaf yr Ymchwiliad; ‘Systemau gofal iechyd’ (Modiwl 3), yn y Gwanwyn, ac yn fuan wedyn, ei adroddiad; ‘Brechlynnau a therapeuteg’ (Modiwl 4).

Mae rhestr lawn o'r pynciau mae'r Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt i'w chanfod yn ein Cylch Gorchwyl. Dyma'r amserlen gyflawn, wedi'i diweddaru ar gyfer gwrandawiadau a chyhoeddiadau adroddiadau sydd ar ddod:

Modiwl
Agorwyd arYn Ymchwilio iDyddiadau GwrandawiadauDyddiad Adroddiad
2 (gan gynnwys 2A, 2B & 2C31 Awst 2022Gwneud penderfyniadau craidd yn y DU a llywodraethu gwleidyddol (DU, yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon)Mawrth 3 Hydref 2023 - Iau 16 Mai 2024Iau 20 Tachwedd 2025
38 Tachwedd 2022Systemau gofal iechydLlun 9 Medi 2024 - Iau 28 Tachwedd 2024Gwanwyn 2026
45 Mehefin 2023Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth wrth-feirysol ledled y DU Mawrth 14 Ionawr – Gwener 31 Ionawr 2025Gwanwyn 2026
524 Hydref 2023CaffaelLlun 3 Mawrth – Iau 27 Mawrth 2025Haf 2026
612 Rhagfyr 2023Y sector gofalLlun 30 Mehefin – Iau 31 Gorffennaf 2025I'w gadarnhau
719 Mawrth 2024Profi, Olrhain ac YnysuLlun 12 Mai – Gwener 30 Mai 2025I'w gadarnhau
821 Mai 2024Plant a Phobl IfancLlun 29 Medi – Iau 23 Hydref 2025I'w gadarnhau
99 Gorffennaf 2024Ymateb economaiddLlun 24 Tachwedd – Iau 18 Rhagfyr 2025I'w gadarnhau
1017 Medi 2024Effaith ar gymdeithasLlun 16 Chwefror 2026 - Iau 5 Mawrth 2026I'w gadarnhau